Arian o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru i New Leaf Sustainable Development


25 Chwefror 2021

Mae Dŵr Cymru wedi rhoi £1500 o’i Gronfa Gymunedol i bum grŵp cymunedol yn Swydd Henffordd. Mae hyn yn rhan o waith y cwmni nid-er-elw yn buddsoddi £10 miliwn i uwchraddio’r pibellau dŵr rhwng Cronfa Ddŵr Bewdley Bank a chyrion dinas Henffordd.

Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus mae New Leaf Sustainable Development sy’n ceisio hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn Swydd Henffordd a’r tu hwnt. Gwnaethant gais am arian i’w helpu i agor Canolfan Gynaliadwyedd yn Queenswood Country Park. Y bwriad yw cynnig sesiynau addysgol er mwyn helpu pobl i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy a darparu hyb lle caiff pobl gyfarfod, chwilio am wybodaeth a dysgu pethau gwerthfawr i’w rhannu yn eu cymuned.  

Dywedodd Wendy Ogden, o New Leaf Sustainable Development:
“Diolch i Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru am eu cyfraniad at ein Canolfan Dyfodol Cynaliadwy. Rydym yn edrych ymlaen at gael agor i gynnal digwyddiadau, rhannu gwybodaeth am faterion byd-eang, cenedlaethol a lleol a rhannu syniadau  am bethau llesol y gallwn eu gwneud yn ein bywydau.’’ 

 

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal nhw. Os ydych yn byw mewn ardal lle rydym ni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael hyd at £1,000 gan Dŵr Cymru.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru:
“Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi prosiectau cymunedol amrywiol ledled Swydd Henffordd. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa yn ein galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt.”

Y grwpiau cymunedol eraill a gafodd arian o Gronfa Gymunedol y cwmni yw Holmer Church of England Academy, Hereford Yoga Community Interest Company, The Growing Local Community Interest Company a The Hereford Boardgamers.

Os hoffech wybod mwy am Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru, ewch i yma