Dyma’r bobl sy'n gweithio ar Ddydd Nadolig i gadw ein dŵr yn llifo


23 Rhagfyr 2021

Tra bydd llawer ohonom yn mwynhau brecwast hwyr, yn arllwys gwydraid o win pefriog i’n hunain, ac yn edrych ymlaen at fwynhau seibiant haeddiannol o'r gwaith ar Ddydd Nadolig, efallai y dylem ni feddwl am y rhai hynny ohonom a fydd yn treulio 25 Rhagfyr yn gweithio.

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn er mwyn darparu ei wasanaethau hanfodol i tua 3.1 miliwn o gwsmeriaid.

Er mwyn cadw'r gwasanaethau hanfodol hyn i fynd dros dymor yr ŵyl, bydd nifer o gydweithwyr o Dŵr Cymru yn gweithio shifft lawn ar Ddydd Nadolig.

Dyma rai o 'Arwyr Nadolig' y cwmni:

Dywedodd Denise Keenan, Cynghorydd Cwsmeriaid: "Byddaf i’n gweithio o fore Nadolig tan 1pm yn y prynhawn yn cefnogi'r ganolfan gyswllt. Nid wyf wedi gweithio shifft ar Ddydd Nadolig o'r blaen ond un flwyddyn roeddwn i yn gweithio wrth gefn dros dymor yr ŵyl a chefais fy ngalw i mewn ar Ddydd Nadolig i helpu. Y flwyddyn honno gwnaeth pibell fyrstio yn Llanrhymni felly fe ddes i i mewn i'r gwaith i ateb galwadau ac ymholiadau gan gwsmeriaid tra bod y timau rheng flaen yn datrys y broblem. Rwy’n bwriadu cael cinio Nadolig hwyr pan fyddaf yn gorffen fy sifft cyn mynd yn ôl i'r gwaith am hanner dydd ar Ŵyl San Steffan."

Bethan Thomas, Technegydd Atal Llygredd: "Rwy'n gweithio i'r tîm rhwydweithiau gwastraff ac rwyf wedi gweithio bron bob Nadolig ers ymuno â Dŵr Cymru ar drefniant wrth gefn rhag ofn y bydd unrhyw ddigwyddiadau oherwydd rwystrau yn y rhwydwaith - sy'n digwydd yn aml ar yr adeg hon o'r flwyddyn os caiff braster, olew neu saim o’r cinio Nadolig eu harllwys i lawr y draen felly stopiwch a meddyliwch a pheidiwch â thywallt unrhyw beth heblaw dŵr i lawr y sinc er mwyn osgoi llifogydd carthffos!

Bydd fy ffôn wrth gefn wrth fy ochr a byddaf yn bwrw ymlaen â fy niwrnod Nadolig fel arfer - ond heb wydraid o win pefriog! Fel tîm, rydym ni’n mynd trwy gyfnod y Nadolig mor ddidrafferth â phosibl a phryd bynnag y caf alwad gan un o'r gweithredwyr neu swyddogion cwsmeriaid, chwarae teg i bawb, does neb byth yn cwyno ac maen nhw’n bwrw ymlaen â'u gwaith fel pe bai'n ddiwrnod arferol."

Bethany Miah, Prentis Cynghorydd:"Dyma fydd fy nhro cyntaf erioed i yn gweithio ar ddydd Nadolig! Rwy'n gweithio o 8am tan 2:30pm i dderbyn unrhyw ymholiadau gan gwsmeriaid ac rwy'n disgwyl y byddaf yn helpu'r bobl hynny sydd ei angen fwyaf. Byddaf yn sicrhau fy mod yno i unrhyw gwsmeriaid sydd angen cymorth ag unrhyw argyfyngau. Rwy'n bwriadu dechrau mwynhau fy Nadolig ar ôl i mi orffen gweithio, felly bydd yn rhaid i’r cinio Nadolig aros nes fy mod wedi gorffen fy sifft! "

Darren Jones, Technegydd Rhwydwaith: "Rwy'n gweithio ar y rota ar alwad dros y Nadolig a byddaf yn cael fy ngalw allan os bydd llifogydd mewnol, byrst neu lygredd. Byddaf yn dathlu cinio Nadolig drwy fwyta brechdanau Twrci, Selsig a Llugaeron wrth fynd am dro i fyny i fan prydferth lleol o'r enw 'Y Gogarth' yn Llandudno, oni bai fy mod yn cael fy ngalw allan!"

Dywedodd Peter Perry, Prif Swyddog Gweithredol Dŵr Cymru: "Mae darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth i fwy na thair miliwn o bobl ledled Cymru a Swydd Henffordd yn swydd eithriadol o bwysig. Mae darparu gwasanaeth hanfodol yn gyfrifoldeb enfawr, ac rydym ni i gyd yn teimlo'n freintiedig i wneud hyn ar ran ein cwsmeriaid.

"Mae angen i'n busnes weithredu bob awr o’r dydd a’r nos, bob dydd o'r flwyddyn - mae'n rhan annatod o ddarparu gwasanaeth mor hanfodol. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl sy'n rhoi eu Dydd Nadolig i gefnogi ein cwsmeriaid a dymuno Nadolig Llawen iawn a blwyddyn newydd dda i'n holl gydweithwyr a'n cwsmeriaid."