Grŵp cymunedol yn cael diwrnod ben-dŵr-gedig yn Llyn Llandegfedd


29 Medi 2021

Wrth lansio wythnos Fi a Fy Nghymuned, gwirfoddolodd cydweithwyr Fi a Fy Nghymuned eu gwasanaethau mewn cymunedau lleol.

Roedd hyn yn cynnwys pethau fel casglu sbwriel o afonydd a thraethau, a gwirfoddoli mewn banciau bwyd. Yn ogystal, cynigiodd y cwmni nid-er-elw gyfle i grwpiau o gwsmeriaid bregus fwynhau gweithgaredd chwaraeon dŵr o'u dewis yn un o'n llynnoedd prydferth. Mae'r Gweithredoedd Caredig Digymell yma'n fodd i'r cwmni roi rhywbeth nôl i gymunedau lleol sydd angen ychydig bach o help llaw.

Manteisiodd tri grŵp ar y profiad hwn yn ystod yr wythnos. Bu timau Dŵr Cymru'n trefnu ac yn cydlynu gweithgareddau gyda Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Tafarn Newydd, Y Gwasanaeth Maethu Therapiwtig, ac Age Connects Torfaen.

Dywedodd Hannah Carpanini, Cydlynydd Gwasanaethau Plant Gweithredu dros Blant, Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Tafarn Newydd: ‘’Hoffwn i ddiolch i chi o waelod calon am gynnig y cyfle i ni gymryd rhan mewn sesiwn rhwyf-fyrddio. Roedd y bobl ifanc wrth eu boddau. Roedd y wên oedd ar eu hwynebau'n dweud y cyfan! Allwn ni ddim a diolch digon i chi a Dŵr Cymru.’’

Dywedodd Matthew Lewis, Rheolwr Gwasanaeth Gweithredu Dros Blant, y Gwasanaeth Maethu Therapiwtig: "Cafodd ein plant amser wrth eu bodd ac am eu bod nhw wedi gorfod ymdopi â chymaint yn ystod eu bywydau ifanc, mae profiadau fel hyn mor werthfawr iddyn nhw. Hoffem ddiolch o galon i Ddŵr Cymru a'r tîm bendigedig yng nghanolfan Chwaraeon Dŵr Llandegfedd am wneud y cyfan yn bosibl!"

Dywedodd Laura Rehman, Cydlynydd Dementia Cynnar gydag Age Connect Torfaen: ‘‘Hoffai'r tîm a fi ddiolch i Ddŵr Cymru Welsh Water am sesiwn heddiw, cafodd y grŵp amser gwych ac maen nhw'n awyddus i ddod nôl eto. Roedd hi wir yn fore hyfryd iddyn nhw i gyd. Hoffem ddiolch i'r tîm am eu holl gymorth hefyd!’’

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: “Cwmni cymdeithasol gyfrifol ydym ni - dyna beth mae cwsmeriaid a chydweithwyr yn ei ddisgwyl gennym. Mater o fynd gam ymhellach dros y cymunedau a wasanaethwn yw wythnos Fi a Fy Nghymuned, ac mae'n fendigedig gweld bod y grwpiau a ddewiswyd i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn wedi cael amser i'w gofio. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd, ond mae'r cyfnod yma wedi dangos pwysigrwydd teulu, ffrindiau, cydweithwyr a'n cymunedau i ni hefyd. Rydyn ni eisoes yn chwarae rhan allweddol yn ein cymunedau trwy ddarparu'r gwasanaethau mwyaf hanfodol ar eu cyfer - sef darparu dŵr glân, a thrin a chael gwared ar ddŵr gwastraff yn ddiogel, ac mae'n bleser gennym gefnogi grwpiau lleol fel hyn.”