£12 miliwn yn Henffordd yn ennill Gwobr Arloesi gan y Sefydliad Peirianneg Sifil


14 Mehefin 2021

Mae’n bleser gan Dŵr Cymru gyhoeddi bod ei brosiect buddsoddi gwerth £12 miliwn yng Nghronfa Wasanaeth Bewdley Bank wedi ennill y Wobr Arloesi yng ngwobrau mawreddog y Sefydliad Peirianneg Sifil (ICE) yn y West Midlands.

Mae Gwobrau blynyddol ICE West Midlands yn cydnabod timau sydd wedi cyflawni rhai o’r prosiectau peirianneg sifil gorau yn y rhanbarth. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo rithwir ddydd Iau 6 Mai dan ofal Jo Barnett, Cyfarwyddwr Rhabrarthol ICE East and West Midlands.

Adeiladwyd Cronfa Wasanaeth Bewdley Bank gan Mott MacDonald Bentley (MMB) ac FLI Carlow ar ran Dŵr Cymru. Enillodd y Wobr Arloesi gan fod y tîm wedi defnyddio techneg adeiladu rhag-gastio rhannol a oedd yn gwneud y rhaglen yn fwy effeithiol ac yn cynnig manteision o ran iechyd a diogelwch.

Y gronfa newydd, a gafodd ei rhag-gastio’n rhannol, yw’r strwythur mwyaf o’i fath yn Ewrop i storio dŵr. Mae’n dal tua 34 megalitr o ddŵr – digon i lenwi 14 o byllau nofio maint Olympaidd. Mae wedi’i gosod nesaf at gronfa arall sy’n dal 26 megalitr – digon i lenwi 10 pwll maint Olympaidd.

Dywedodd Andrew Roberts, Pennaeth yr Alliance Water Programme yn Dŵr Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod y prosiect buddsoddi hwn wedi’i gydnabod yng Ngwobrau ICE West Midlands oherwydd ei dechnegau arloesol. Bydd y gronfa ddŵr ychwanegol yn gwneud rhwydwaith dŵr Henffordd yn gadarnach ac yn fwy abl i ymateb i amrywiadau yn y galw, fel y gall barhau i ddarparu cyflenwad dŵr diogel a dibynadwy i’r 600,000 o gwsmeriaid sydd gennym yn yr ardal.

“Bu gwaith caled ac ymroddiad tîm craidd Dŵr Cymru ac MMB trwy’r prosiect cyfan yn allweddol i’w lwyddiant.”

Dywedodd Matthew Thorpe, Arweinydd Dylunio gydag MMB: “Mae’n wych cael cydnabyddiaeth fel hyn ar ôl i’r tîm ymdrechu am gyfnod o bedair blynedd o’r syniad dechreuol i’r cyfnod trosglwyddo.

“Yn gynnar yn y broses, gwnaethom ni gynnig y cynllun effeithlon ac arloesol o adeiladu un cronfa wasanaeth fawr yn lle defnyddio dau safle. Mae hynny’n golygu y bydd cwsmeriaid Dŵr Cymru’n cael cyflenwad dŵr sydd gryn dipyn yn fwy cadarn.”

Roedd y prosiect yn rhan o fuddsoddiad o £1.7 biliwn a wnaed gan y cwmni nid-er-elw rhwng 2015 a 2020 i wella gwasanaethau i gwsmeriaid a helpu i warchod yr amgylchedd. Rhwng 2020 a 2025, mae’r cwmni’n bwriadu buddsoddi £1.8 biliwn arall.