Parc Hailey a Thongwynlais yn elwa ar waith gwerth £8 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr gwastraff


21 Gorffennaf 2021

Mae Dŵr Cymru wrthi’n buddsoddi £8 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr gwastraff rhwng Parc Hailey a Thongwynlais. Bydd y buddsoddiad hwn yn help i sicrhau bod mwy o le yn y rhwydwaith carthffosydd ac i warchod amgylchedd yr ardal am flynyddoedd i ddod.

  • Mae Dŵr Cymru wedi buddsoddi £8 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith carthffosydd rhwng Parc Hailey a Thongwynlais.
  • Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd Medi 2021.

Dechreuwyd y gwaith haf diwethaf ac mae’n cynnwys newid, glanhau ac ail-leinio darnau o’r bibell dŵr gwastraff rhwng Parc Hailey a Thongwynlais. Mae wedi symud ymlaen yn ardderchog ac mae’r cwmni eisoes wedi newid ac ail-leinio dros 700 metr o bibellau carthffosydd ac wedi glanhau 550 metr arall. Disgwylir y bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd Medi 2021.

Oherwydd lleoliad rhai o’r pibellau carthffosiaeth, bu’r cwmni’n cydweithio’n agos â’r contractwyr Morgan Sindall, Cyngor Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru a grwpiau cymunedol lleol i gynllunio a gwneud y gwaith.

Dywedodd Rheolwr y Prosiect gyda Dŵr Cymru, Andrew Davies: “Rydyn ni, yn Dŵr Cymru, yn ymroi i sicrhau ein bod yn darparu system ddŵr effeithiol sy’n rhoi gwasanaeth o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid.  Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud rhwng Parc Hailey a Thongwynlais yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ailfuddsoddi’r elw er budd y cwsmeriaid."

“Rydyn ni bob amser yn ymdrechu i roi gwybod i’n cwsmeriaid beth rydyn ni’n ei wneud pan fyddwn ni’n gweithio yn eu cymuned. Felly, rydyn ni wedi ysgrifennu at y trigolion i sôn am y gwaith ac wedi cadw mewn cysylltiad â nhw trwy roi’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan yn rheolaidd."

“Rydyn ni’n deall y gall ein gwaith fod yn anghyfleus ar adegau ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r ffaith fod busnesau a thrigolion yr ardal mor amyneddgar ac mor barod i gydweithredu. Diolch yn fawr iddyn nhw am hyn.’’

Fel rhan o’r buddsoddiad, rhoddodd y cwmni £500 i Glwb Pêl-droed Tongwynlais Athletic (AFC) i helpu’r clwb i dyfu a rhoesant nifer o gysgodfannau iddynt i’r tîm eu defnyddio mewn tywydd drwg.

Dywedodd Gareth Morgan, trysorydd Tongwynlais AFC: “A minnau’n drysorydd Tongwynlais AFC hoffwn ddiolch yn fawr i Dŵr Cymru am eu holl gefnogaeth i’r clwb wrth i ni geisio tyfu mewn cyfnod anodd iawn. Byddwn yn gallu defnyddio’r cyfraniad i brynu offer y mae arnon ni wir ei angen, fel baneri corneli, topiau hyfforddi a chloeon mwy diogel ar gyfer yr ystafelloedd newid. Diolch i bawb yn Dŵr Cymru am eich cefnogaeth a’ch rhoddion.”