Glas Cymru yn Chwilio am Aelodau Annibynnol Newydd


12 Awst 2021

Mae Glas Cymru, y rhiant-gwmni a ffurfiwyd i fod yn berchen ar Dŵr Cymru, ei gyllido a’i reoli, yn recriwtio Aelodau annibynnol newydd i ddal y Bwrdd Cyfarwyddwyr i gyfrif ac i helpu i sicrhau llywodraethu corfforaethol o safon uchel.

Mae aelodau Glas Cymru yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, yn cynnwys unwaith yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cwmni, ac yn cael newyddion rheolaidd am waith Dŵr Cymru, gan helpu i sicrhau bod y Bwrdd Cyfarwyddwyr yn rhedeg y cwmni fel y dylent. Mae’r aelodau’n gweithio i sicrhau safonau uchel o ran llywodraethu corfforaethol ac maent yn elwa ar arbenigedd proffesiynol amrywiol criw o unigolion medrus ac ymroddedig.

Dywedodd Nicola Williams, Ysgrifennydd Cwmni Dŵr Cymru:

“Mae ein Haelodau yn chwarae rhan hanfodol yn y sefydliad o safbwynt craffu a llywodraethu. Dyma gyfle gwych i lywio gwaith un o gwmnïau blaenaf Cymru, i ddysgu mwy am fyd cymhleth y diwydiant dŵr ac i helpu Glas Cymru i fod hyd yn oed yn fwy effeithiol er budd ein cwsmeriaid. Ni yw’r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr ac rydym yn chwilio am bobl egnïol a brwd o wahanol oedrannau a chefndiroedd a chanddynt sgiliau a phrofiadau amrywiol i ddal ein Bwrdd Cyfarwyddwyr i gyfrif ac i’n helpu i roi’r gwasanaeth gorau posibl i’n cymunedau. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr yn y diwydiant dŵr – ond mae angen ymroddiad i sicrhau llwyddiant y diwydiant hanfodol hwn yn ein cymunedau.”

Mae’r cwmni’n arbennig o awyddus i glywed oddi wrth ymgeiswyr o rannau o’i ardal gyflenwi sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, yn cynnwys Casnewydd, y Cymoedd, Henffordd, Ceredigion, Wrecsam an Swydd Gaer.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw dydd Mercher, 8 Medi 2021. Mae manylion am yr hyn y mae’r aelodau’n ei wneud a sut i ymgeisio i’w gweld yma.