Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru’n helpu Clwb Pêl-droed Danescourt i gael cit ac offer ar gyfer y tîm dan 18!


4 Mawrth 2021

Rhoddodd Dŵr Cymru £500 i Glwb Pêl-droed Danescourt o’i Gronfa Gymunedol fel y gallant brynu cit ac offer newydd ar gyfer y timau ieuenctid. Mae’r rhodd yn rhan o fuddsoddiad o £2,000,000 gan y cwmni nid-er-elw er mwyn uwchraddio pibellau dŵr ardal y Tyllgoed a Danescourt.

Mae dros 120 o blant yr ardal yn ymwneud â’r clwb pêl-droed sy’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o ehangu’r clwb er mwyn cefnogi pobl ifanc yr ardal. Yn ddiweddar, sefydlwyd tîm dan 18 – y cyntaf yn hanes y clwb – ar gyfer rhai oedd am ddal ati i chwarae pêl-droed a’u helpu i bontio rhwng timau ieuenctid a thimau oedolion.

Dywedodd Tim Banks, Aelod o Bwyllgor Clwb Pêl-droed Danescourt: “Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i Dŵr Cymru am y grant hael hwn. Mae wedi bod yn anodd codi arian dros y flwyddyn ddiwethaf ond rydym wedi gweld nifer yr aelodau’n tyfu. Mae’r clwb pêl-droed yn werthfawr iawn i lawer o’r plant gan roi cyfle i gymdeithasu, gwneud ffrindiau a chael hwyl, yn enwedig dros y misoedd anodd hyn. Bu’r grant yn hollbwysig yn rhoi cyfle i ni wella pethau a phrynu cit ac offer newydd fel y gallwn gynnig lle diogel, braf i roi hwb i’r bobl ifanc mewn clwb sy’n tyfu.”

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn gyfle i hybu ymdrechion cymunedau i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych yn byw mewn ardal lle mae’r cwmni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael hyd at £1,000 o’r Gronfa. Cewch wybod mwy yn Cronfa Gymunedol

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru: “Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi Clwb Pêl-droed Danescourt. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa yn gyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddyn nhw.”

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n gweithio yn ardaloedd y Tyllgoed a Danescourt yng Nghaerdydd fel rhan o brosiect i fuddsoddi £2,000,000 yn uwchraddio’r pibellau dŵr fel bod y cwsmeriaid yn dal i gael cyflenwad dŵr yfed o’r safon uchaf am ddegawdau i ddod. Disgwylir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn diwedd Ebrill 2021.