Creu diwylliant cynhwysol yn Nŵr Cymru


22 Chwefror 2021

Mae'r hil ddynol wedi wynebu sialensiau newydd di-ri dros y deuddeg mis diwethaf. Ac mae rhai o'r hen sialensiau wedi codi eu pennau hefyd; a hiliaeth yn arbennig.

Rhwydwaith BAME+ Dŵr Cymru yw'r ymgnawdoliad o weithredu, newid a chydweithio. Sefydlwyd y rhwydwaith gan gydweithwyr unigol er mwyn creu lle diogel i gydweithwyr BAME a'u cynghreiriau ddod at ei gilydd, trafod materion pwysig, a llunio strategaeth ar gyfer cynwysoldeb. Mae'r rhwydwaith wedi tyfu'n gyflym i fod â dros 30 o aelodau ers ei sefydlu'r llynedd, ac wedi bod yn llwyddiannus wrth godi ei broffil o fewn Dŵr Cymru a'r tu hwnt.

I nodi Wythnos Cydraddoldeb Hiliol gyntaf y DU, cafodd Cyd-gadeirydd y rhwydwaith, y Dadansoddwr Masnachol, Nkechi Allen-Dawson, wahoddiad i ymuno mewn trafodaeth banel dan nawdd HS2 gyda 5 panelwr arall o'r Grŵp Cydweithredu Traws-sectoraidd ar faterion Hil. Trafododd y panel o chwech dueddiadau yn y sectorau adeiladu, cyfleustodau a rheilffyrdd, gan drafod pa gamau y gall arweinwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb (EDI) eu cymryd i gynorthwyo eu sefydliadau i fod yn fwy cynhwysol o ran hil. O ganlyniad, archwiliwyd pedair thema craidd â'r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth ddileu anghydraddoldebau hiliol o'r diwydiant ar led.

Dyma beth oedd gan Nkechi i'w ddweud:

“Rydyn ni'n credu bod angen i amrywiaeth fod ar yr agenda ar bob lefel ac ym mhob diwydiant. Mae rhwydwaith BAME+ Dŵr Cymru'n bodoli i sbarduno sgwrs ac i greu lle diogel i drafod newid cadarnhaol. Gall gweithwyr leisio materion pwysig, neu’n syml, mynd ati i drafod y ffyrdd gorau o reoli rhwystrau yn y gwaith.

"Mae sefydlu cynrychiolaeth BAME yn gadarn ar draws y busnes yn hanfodol bwysig i ni hefyd, ac rydyn ni'n gweithio gyda'n timau Addysg a Recriwtio mewnol i ddatblygu ambell i fenter gyffrous fel cynlluniau datblygu proffesiynol, cynlluniau mentora o chwith a rhaglenni allgymorth.

“Rydyn ni'n awyddus i sefydlu rhwydwaith o Eiriolwyr BAME+ ar draws y cwmni; sef criw o gydweithwyr y gall pobl eraill droi atynt i drafod pethau fel micro-ymddygiad ymosodol neu wahaniaethu, a hynny'n gyfrinachol. Trwy gyflawni mentrau o'r math yma, gallwn wneud Dŵr Cymru'n lle mwy cynhwysol fyth i weithio.

“Yn y pen draw, hoffem herio cynifer o sefydliadau â phosibl i wneud newid parhaus i'w polisïau cynwysoldeb. Dyna pam roedd hi mor wych cael ymuno yn y drafodaeth banel ddiweddar am sut y gall pobl a sefydliadau helpu i ddatblygu sgyrsiau ehangach am gydraddoldeb hiliol.

“Y gwir amdani yw; mater dyngarol yw Cydraddoldeb Hiliol. Mae angen i ni i gyd fod yn garedig, yn dryloyw ac yn atebol. Rhaid i reolwyr ymddiried cyfrifoldebau a chyfleoedd yn eu gweithwyr. Rhaid i'r gweithwyr ymddiried yn ei gilydd, ac ymddiried yn eu rheolwyr hefyd i ystyried eu buddiannau gorau. Rhaid i gwsmeriaid a phartneriaid ymddiried mewn cwmni, ei bobl, ei gynnyrch a'i wasanaethau.”

Un arall o sylfaenwyr y Rhwydwaith BAME+ yw Omolara Cordle, sy'n Arweinydd Tîm yn y Ganolfan Gysylltu. Ychwanegodd: "Rhywbeth sy'n bwysig iawn yn fy llygaid i yw'r ffaith fod rhwydwaith Dŵr Cymru wedi cael ei gychwyn gan grŵp o unigolion sy'n un wrth gredu bod yna ragor y gellir ei wneud i god ymwybyddiaeth am y materion sy'n wynebu cydweithwyr BAME+.

“Mae hyn yn dangos bod unrhyw un – dim ots beth yw lefel eu swydd neu eu rôl – yn gallu gwneud gwahaniaeth ystyrlon. Mae newid yn perthyn i ni i gyd, a dylai pawb deimlo bod y grym ganddynt i weithredu. Mae'r gymuned BAME+ yn esiampl byw o hyn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld ein cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith er budd ein cydweithwyr a gweithwyr Dŵr Cymru’r dyfodol!”