Dŵr Cymru’n cyfrannu dros £20,000 at brosiectau cymunedol yn y Rhondda Fach


1 Mehefin 2021

Mae grwpiau cymunedol ledled y Rhondda Fach yn wên o glust i glust ar ôl cael rhan o gronfa o £20,000 a oedd ar gael i’r ardal gan Dŵr Cymru. Roedd cronfa’r cwmni dŵr nid-er-elw yn rhan o brosiect gwerth miliynau o bunnau y bu’n gweithio arno i osod pibellau dŵr newydd sbon yno.

Gydag arian o’r gronfa, mae dros 60 o grwpiau cymunedol llwyddiannus, o Faerdy i lawr i Bontypridd yn gallu cynnal pob math o brosiectau cymunedol. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau fel chwaraeon, prynu offer cerddoriaeth a’r celfyddydau, nwyddau swyddfa, llogi ystafelloedd a darparu adnoddau iechyd meddwl a llesiant. Aeth peth o’r arian i feithrinfeydd, dosbarthiadau addysg oedolion a grwpiau plant bach i roi hwb i weithgareddau cymunedol.

Dywedodd Stuart Strathdee, Arweinydd Grŵp Sgowtiaid 1af Trealaw (yr Holl Saint): “Bu Grŵp Sgowtiaid Trealaw bron â dod i ben rai blynyddoedd yn ôl ond mae’n llwyddiannus iawn erbyn hyn diolch i lawer o waith caled. Mae Beavers, Cybiaid a Sgowtiaid yn y grŵp a digon o aelodau erbyn hyn i agor adran ‘Explorers’. Byddwn yn gallu defnyddio’r arian i brynu offer coginio newydd fel y gallwn baratoi bwyd yn ddiogel i’w fwynhau wrth wersylla. Bydd hyn yn golygu y gall rhagor o blant y grŵp fwynhau’r profiad o wersylla ar ôl codi cyfyngiadau’r cyfnod clo.”

Un arall o’r grwpiau cymunedol llwyddiannus yw Côr Meibion Morlais, Glynrhedynog. Mae gan y côr neuadd ymarfer sydd hefyd yn cael ei defnyddio gan grwpiau cymunedol eraill ar gyfer gweithgareddau fel dawnsio llinell, dosbarthiadau coginio iachus, Slimming World, Tai Chi, cwiltio, a llawer rhagor. Mae hefyd yn cael ei defnyddio i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, cyfarfodydd PACT a gweithgareddau codi arian i wahanol elusennau yn ogystal â bod yn orsaf bleidleisio.

Dywedodd Byron Young, Ysgrifennydd Côr Meibion Morlais: “Dyw’r côr ddim yn ceisio gwneud elw mawr o’r neuadd, dim ond talu’r costau a rhannu unrhyw elw er budd y gymuned. Bydd yr arian o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru’n help i gynnal a chadw’r neuadd a phrynu cadeiriau newydd – mae rhai o’r hen rai dros 20 oed! Ar ôl cael y cadeiriau newydd, bydd y côr yn gallu cynnal cyngherddau’n rheolaidd ar gyfer y gymuned.”

Mae’r Gronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau lle mae Dŵr Cymru’n gweithio gael hyd at £1,000 i roi hwb i’w hymdrechion i godi arian at achosion da.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru: “Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi prosiectau cymunedol amrywiol ledled y Rhondda Fach. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa’n ein galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt.”

Yn ogystal â’r prosiect buddsoddi, mae’r cwmni wedi helpu cwsmeriaid yn yr ardal trwy weithgareddau’r prosiect Cymunedau Cadarn Dŵr (Water Resilient Communities). Cynhaliwyd y prosiect yn ystod 2018 a 2019, gan ddefnyddio gwahanol wasanaethau’r cwmni er budd y gymuned. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd cymunedol yma a thraw yn y Rhondda Fach. Roedd cyfle i gwsmeriaid ddod i drafod cwestiynau am eu biliau a’u tariffau a helpwyd cwsmeriaid yn yr ardal i arbed cyfanswm o dros £120,000 ar eu biliau dŵr.

Yn ogystal, bu Tîm Addysg Dŵr Cymru’n cyflwyno gwersi i dros 2,000 o ddisgyblion gyda’r nod o ddysgu’r genhedlaeth nesaf am y diwydiant dŵr a sut y gallant ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon.

Os hoffech wybod rhagor am ein gwaith buddsoddi rhwng Maerdy a Phontypridd, ewch i Maerdy-Pontypridd