Rhybudd i gwsmeriaid am bibellau'n byrstio wrth i'r gaeaf afael


10 Chwefror 2021

  • Mae Dŵr Cymru'n rhybuddio cwsmeriaid i lagio pibellau cyn y gaeaf
  • Mae chwarter o bobl Cymru wedi dioddef pibellau'n rhewi - a 13% wedi dioddef pibell yn byrstio
  • Mae pedwar ym mhob pump yn gwybod ymhle mae eu stoptap - sy'n golygu eu bod nhw’n gallu atal y cyflenwad dŵr os yw'r pibellau'n rhewi
  • Ond nid yw 40% yn gwybod sut i lagio pibellau sydd yn yr awyr agored - sy'n golygu eu bod mewn perygl o rewi

Mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio ei gwsmeriaid i gymryd camau i amddiffyn rhag pibellau’n rhewi ac yn byrstio wrth i'r gaeaf afael.

Mae gwaith ymchwil newydd gan y cwmni polau piniwn YouGov yn dangos nad yw bron i 40% o bobl yn gwybod sut i lagio pibellau sydd allan yn yr awyr agored – sef y rhai sydd fwyaf tebygol o rewi – ac nad yw cyfanswm o 63% erioed wedi ceisio gwneud hynny.

Dywedodd bron i chwarter o'r ymatebwyr yng Nghymru bod y pibellau wedi rhewi yn eu cartrefi cyn nawr, ac roedd 16% wedi dioddef pibell yn byrstio - sy'n gallu achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod.

Yn ôl y rhagolygon, bydd y tymheredd yn disgyn dros y dyddiau nesaf, gyda pherygl o eira, iâ a thywydd rhewllyd.

Pan fo'r tymheredd yn disgyn, mae'r dŵr yn eich pibellau a'ch tapiau'n gallu rhewi. Mae dŵr yn chwyddo wrth rewi, ac mae hynny’n gallu cracio'r pibellau metel cryfaf hyd yn oed. Efallai na sylwch chi ar unwaith, ac ni fyddwch chi'n gwybod bod problem nes bod yr ia yn y bibell yn dadmer, a dŵr yn dechrau gollwng ohoni.

Mae Dŵr Cymru'n gallu cynnig nifer gyfyngedig o becynnau lagio am ddim i gwsmeriaid er mwyn iddynt amddiffyn pibellau a thapiau sydd mewn mannau oer iawn neu yn yr awyr agored, ac mae'r rhain ar gael yma.

Pan fo'r tywydd yn oer, mae pibellau dŵr a thapiau yn yr awyr agored, neu mewn lle oer fel llofft neu garej, yn gallu rhewi a byrstio – gan adael cartrefi a busnesau heb ddŵr, heb wres, neu dan ddŵr – ynghyd â'r holl gostau sy'n dod yn sgil hynny.

Gall pibellau mewn eiddo sy'n wag dros gyfnod y Nadolig fod mewn mwy o berygl o rewi hefyd, fel y rhai mewn busnesau neu safleoedd tymhorol, fel meysydd carafanau.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Dŵr Cymru: "Mae Dŵr Cymru'n gweithio'n galed i baratoi ar gyfer y gaeaf, ac mae'n awyddus i sicrhau bod cwsmeriaid yn ymwybodol o'r pethau syml y gallant eu gwneud er mwyn cadw eu dŵr yn llifo mewn cyfnodau o dywydd oer.

“Dyna pam ein bod ni'n gofyn i bobl sicrhau bod eu cartrefi a'u busnesau wedi eu lapio'n barod am y gaeaf trwy ddefnyddio pecyn lagio ar unrhyw bibellau neu dapiau sydd allan yn yr awyr agored. Gallai hyn atal anghyfleustra a chostau mawr – ar yr adeg waethaf o'r flwyddyn i ddelio â thrafferthion fel hyn.

“Mae gennym bob math o awgrymiadau a chynigion, yn ogystal â chyfle i gwsmeriaid domestig gael pecyn lagio.”

Yn ôl Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI), ar anterth y rhew mawr yn 2010, roedd cwmnïau yswiriant yn derbyn tua 3,500 o alwadau y dydd gan gwsmeriaid oedd wedi dioddef difrod am fod eu pibellau wedi rhewi. Gall cost gyfartalog gwaith i drwsio'r difrod y mae pibellau'n byrstio'n ei achosi fod cymaint â £7,000.

Perchennog yr eiddo neu'r landlord sy'n gyfrifol am drwsio problemau sy'n codi gyda phibellau mewn cartrefi, felly mae'n werth cymryd yr amser i sicrhau eu bod wedi eu hinswleiddio'n dda. Mae'r cyngor yn berthnasol hefyd i unrhyw fath o eiddo a allai fod yn wag am gyfnod dros y gaeaf.