Cyn-athrawes gyda Dŵr Cymru’n cael Medal yr Ymerodraeth Brydeinig


6 Ebrill 2021

Cafodd ymroddiad un o gyn-athrawesau Dŵr Cymru i ddatblygu addysg a chwaraeon yn Rwanda ei gydnabod pan ddyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddi yn ddiweddar.

Bu Mary Watkins, a dreuliodd 13 blynedd yn athrawes deithiol gyda’r cwmni dŵr nid-er-elw, yn gweithio’n ddiflino i ddatblygu a chyflenwi adnoddau addysgol i blant yn Rwanda. Roedd hyn yn cynnwys datblygu adnoddau i blant mewn ysgolion a helpu i hyfforddi athrawon.

Syrthiodd Mary mewn cariad ag Affrica pan fu ar daith i Uganda gydag elusen WaterAid yn 2008.  Aeth y daith â hi i gymunedau a oedd ar eu hennill oherwydd arian a godwyd gan y cwmni. Mae Dŵr Cymru wedi codi dros £1 filiwn i helpu prosiectau arloesi, prosiectau seilwaith a chynlluniau i osod pympiau dŵr ac offer casglu dŵr er mwyn gwella hylendid a glanweithdra.

 

Ymunodd Mary â Thîm Addysg llwyddiannus Dŵr Cymru yn 2004 o Ysgol Gynradd Gaer, Casnewydd ac fe gyfrannodd yn fawr at ddatblygu strategaeth addysg y cwmni. Mae’r adran addysg yn cynnig sesiynau mewn canolfannau addysg ac mewn ysgolion i gannoedd o filoedd o ddisgyblion yn ardal y cwmni. Mae wedi cyrraedd dros 570,00 o ddisgyblion ers i’r rhaglen gael ei lansio yn 2001.

Ar ôl ymweld ag Uganda, treuliodd Mary a Glyn, ei gŵr, flwyddyn sabathol yn Rwanda yn gwirfoddoli gyda’r VSO (Voluntary Service Overseas) gan gefnogi a hyfforddi athrawon a datblygu adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd. Syrthiodd y ddau mewn cariad â’r wlad a  buont yn ymweld â hi bob blwyddyn gan ymddiddori yn y tîm rygbi lleol a helpu i gasglu a dosbarthu cit ar gyfer y rhanbarth cyfan.  Gadawodd Mary Dŵr Cymru yn 2018 i ddychwelyd i Rwanda ar leoliad blwyddyn gyda’r VSO gan ddefnyddio’i phrofiad gwerthfawr i hyfforddi athrawon. Ers 2018 buont yn rhedeg elusen Friends of Rwandan Rugby yn y DU, gan gyflogi Swyddogion Datblygu Rygbi o Rwanda i ddysgu rygbi mewn ysgolion ledled y wlad. Yn ddiweddar, mae Mary wedi sefydlu cwmni cydweithredol i fenywod yn ardal Rusizi, gan godi arian a darparu 8 o beiriannau gwnïo ar gyfer menywod ifanc er mwyn iddynt ennill incwm a chynnal eu teuluoedd trwy wnïo dillad. Yn ogystal, mae wedi helpu un o’i chyn-fyfyrwyr i sefydlu ysgol feithrin mewn ardal anghysbell yn ne-orllewin Rwanda. 

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol: “Dydi’r anrhydedd haeddiannol hon ddim yn fy synnu o gwbl. Roedd ymroddiad Mary i wneud gwahaniaeth i bobl Affrica yn amlwg ers ei hymweliad cyntaf â’r wlad. Mae’n athrawes ysbrydoledig ac roedd y wers a greodd ar ôl ymweld ag Uganda yn un o’r gwersi mwyaf poblogaidd yn ein Canolfannau Darganfod. Roedd yn aelod gwerthfawr iawn o’r cwmni ac mae’n wych meddwl bod miloedd o blant ledled Cymru a Rwanda ar eu hennill oherwydd ei brwdfrydedd hi a’i chariad at ei gwaith”.