Finance

Dŵr Cymru’n rhoi arian i Glwb Rygbi Bowmen Sevens


30 Gorffennaf 2021

Mae’r Bowmen Sevens, clwb rygbi o Lantrisant, wedi cael £500 o Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru.

Trwy gydol y pandemig, doedd y clwb ddim yn gallu cynnal sesiynau hyfforddi, dysgu’r aelodau na chwarae gemau. Fodd bynnag, ers iddo gael arian oddi wrth Dŵr Cymru, mae’r cyfyngiadau wedi dechrau llacio ac mae’r clwb wedi cael dechrau agor y drysau i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr unwaith eto.

Defnyddiwyd yr arian a gafwyd oddi wrth Dŵr Cymru i brynu offer newydd a chadeiriau i gefnogwyr hŷn eistedd ynddynt i wylio’r gemau. Mae hyn wedi rhoi hwb i iechyd a lles y chwaraewyr a’r cefnogwyr, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a helpu i ddod â’r gymuned ynghyd unwaith eto.

Dywedodd James Little, sefydlydd a chadeirydd clwb rygbi’r Bowmen Sevens: “Heb gefnogaeth Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru fydden ni ddim wedi fallu fforddio cit newydd i’r chwaraewyr, bag cymorth cyntaf newydd na llogi cyfleusterau. Mae pawb yma yn y Bowmen yn ddiolchgar iawn. Rŷn ni hyd yn oed wedi llwyddo i brynu cadeiriau i rai o’r cefnogwyr hŷn eistedd ynddyn nhw i’n gwylio.”

Mae Cronfa Gymunedol y cwmni yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal nhw. Os ydych yn byw mewn ardal lle rydym ni’n gweithio – a’ch bod yn codi arian at brosiectau er budd y gymuned – gallech gael hyd at £1,000 gan Dŵr Cymru.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru: “Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru gefnogi prosiectau cymunedol amrywiol ledled Rhondda Cynon Taf. A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith ac mae’r Gronfa’n ein galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddyn nhw.”

Os hoffech wybod mwy am Gronfa Gymunedol y cwmni, cliciwch yma.