Regulation Icon

Dŵr Cymru ar frig y diwydiant am foddhad cwsmeriaid


1 Mai 2020

Mae cwsmeriaid Dŵr Cymru wedi gosod y cwmni ar y brig o ran boddhad â gwasanaethau mewn arolwg newydd a gyflawnwyd gan reoleiddwyr y diwydiant ar draws Cymru a Lloegr.

Mae'r cwmni nid-er-elw, sy'n gwasanaethu tair miliwn o gwsmeriaid ar draws y rhan fwyaf o Gymru a rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr, wedi dod allan ar frig y mesuriad newydd o wasanaethau cwsmeriaid - sef y Mesur o Brofiadau Cwsmeriaid (C-MeX) - a gyflawnwyd gan reoleiddiwr y diwydiant, Ofwat.

Dangosodd sgoriau terfynol y flwyddyn “gweithredu cysgodol” yn 2019-2020 – cyn cael i’r mesur gael ei gyflwyno'n barhaol eleni – sgôr o 82.47 i Ddŵr Cymru, yn erbyn sgôr gyfartalog o 76.65 ar draws y diwydiant yng Nghymru a Lloegr (sef 17 cwmni i gyd).

Mae C-MeX yn cynnwys arolwg gwasanaethau cwsmeriaid ymysg cwsmeriaid domestig sydd wedi bod mewn cysylltiad â'u cwmni yn ddiweddar i holi am eu profiadau, ac arolwg o brofiadau cwsmeriaid ymysg aelodau o'r cyhoedd ar led a ddewisir ar hap.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Fel cwmni, ein gweledigaeth yw ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd, ac mae'n galonogol bod y canlyniadau diweddaraf yma sy’n mesur gwasanaethau cwsmeriaid yn dangos ein bod ni'n gwneud llawer o bethau'n iawn - hyd yn oed yn wyneb rhai o'r amodau mwyaf ymestynnol y mae'r cwmni erioed wedi eu gweld.

"Ond mae hi'n bwysig ein bod ni'n parhau i adeiladu ar hyn, ac rydyn ni'n benderfynol o weithio'n galed i barhau i ddiwallu gofynion cynyddol ein cwsmeriaid am wasanaethau o safon uchel a gwerth da am eu harian."

Daw'r canfyddiadau hyn yn wyneb rhai o'r sialensiau mwyaf sydd wedi dod i ran y cwmni erioed - gyda Storm Dennis yn achosi llifogydd trychinebus ar draws llawer o'r ardaloedd y mae'r cwmni'n eu gwasanaethu ym mis Mawrth, a'r her sy'n dal o’n blaenau wrth ymateb i'r pandemig coronafeirws.

Mae'r canlyniadau diweddaraf yma'n dilyn arolwg arall a gyflawnwyd gan y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid ym mis Ionawr, a osododd Dŵr Cymru ymysg 50 cwmni uchaf y DU - y tro cyntaf erioed i gwmni dŵr gyrraedd y rhestr, ac â’r sgôr uchaf ymysg holl gwmnïau cyfleustod y DU.