Environment Icon

Dŵr Cymru'n ail-lansio cynllun gwaredu plaladdwyr cyfrinachol ac am ddim er mwyn amddiffyn ansawdd dŵr yfed


5 Mawrth 2020

  • Cynllun gwaredu plaladdwyr am ddim ar gyfer ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir ledled Cymru
  • Bydd cynllun cyfrinachol Dŵr Cymru'n diogelu ansawdd dŵr yfed cyn i'r dŵr gyrraedd gweithfeydd trin dŵr
  • Gellir cofrestru tan 31 Mawrth a chynigir lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin

Mae Dŵr Cymru wedi agor cyfnod cofrestru i ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir yng Nghymru waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau fel rhan o'i brosiect cyfrinachol ac am ddim, sef PestSmart.

Mae PestSmart yn annog pobl ledled Cymru i ystyried dulliau 'doethach' o reoli chwyn, plâu a chlefydau nad ydynt yn effeithio ar bobl, dŵr na bywyd gwyllt.

Esbonia Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr, Dŵr Cymru:

"Mae ein rhaglen arferol o fonitro dŵr heb ei drin wedi canfod mwy a mwy o olion o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad ydym wedi eu gweld o'r blaen. Er bod y lefelau hyn yn rhy isel i achosi risg i'r rhai sy'n yfed y dŵr, maent yn ddigon i fod mewn perygl o dorri safonau dŵr yfed llym, felly rydym am weithio gyda ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir er mwyn cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn gyda'n gilydd.

"Gall hyd yn oed y rheolwyr tir mwyaf trefnus weld bod ganddynt gynnyrch hen neu sydd heb drwydded erbyn hyn y gall fod yn anodd neu'n ddrud i'w waredu yn y ffordd gywir. Er mwyn eu helpu, rydym yn lansio cynllun gwaredu cyfrinachol ac am ddim i waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau yn ddiogel.

"Rydym yn gwybod bod gan blaladdwyr rôl hanfodol bob dydd yn y gymuned amaethyddol. Fodd bynnag, os na chânt eu storio, eu defnyddio na'u gwaredu'n gywir, gallant gael effaith ddychrynllyd ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt. Drwy ddarparu'r cynllun cyfrinachol am ddim hwn ledled Cymru, rydym am weithio gyda rheolwyr tir er mwyn lleihau'r risg o lygredd a diogelu ansawdd dŵr heb ei drin cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Mae hon yn fenter wych gan Dŵr Cymru ac rwyf yn annog pob ffermwr, tyfwr a rheolwr tir i gofrestru am y cynllun gwaredu plaladdwyr am ddim. Mae lleihau effaith plaladdwyr ar yr amgylchedd i'r eithaf yn rhan annatod o'r gwaith o ymateb i'r argyfwng ecolegol, gan amddiffyn cyrsiau dŵr Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. “

Mae'r cynllun ar gael ledled Cymru, nid dim ond yn ardal weithredu Dŵr Cymru. Mae'n gwbl gyfrinachol ac ar gael am gyfnod cyfyngedig ar sail y cyntaf i'r felin.

Er mwyn cofrestru, ewch i www.dwrcymru.com/disposalscheme neu ffoniwch 01443 452716 erbyn 5pm ddydd Mawrth 31 Mawrth 2020 fan bellaf. Bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel i gontractwr gwastraff peryglus penodedig Dŵr Cymru a fydd yn cysylltu â chi i gael rhagor o fanylion cyn casglu eich plaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau ar ddiwrnod a drefnir ymlaen llaw.

Mae telerau ac amodau yn gymwys ac maent ar gael ar wefan Dŵr Cymru.

Mae'r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.