Dŵr Cymru'n dwysáu ei gymorth i gwsmeriaid mewn ymateb i COVID-19


12 Tachwedd 2020

Mae Dŵr Cymru wedi dwysáu ei gymorth i gwsmeriaid yn ystod pandemig y coronafeirws – gyda miloedd o gwsmeriaid yn cael cymorth ychwanegol dros y chwe mis diwethaf.

  • Tua 45,000 o fusnesau'n cael gwyliau talu
  • Mwy na 330,000 o gwsmeriaid yn cael eu hychwanegu at y Gronfa Gwasanaethau Blaenoriaeth dros dro yn ystod y pandemig
  • Y cwmni nid-er-elw'n buddsoddi £187 miliwn er mwyn gwella gwasanaethau ac amddiffyn yr amgylchedd

Erbyn hyn, mae'r cwmni'n darparu Cymorth ariannol i mwy na 139,000 o gwsmeriaid sydd angen help i dalu eu biliau – mwy nag unrhyw gwmni arall yng Nghymru a Lloegr.


Ers mis Ebrill mae e wedi dwysáu ei gymorth ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi cael eu taro gan y pandemig COVID-19, gan ychwanegu mwy na 330,000 o gwsmeriaid at ei Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth dros dro a threfnu cynlluniau talu hyblyg ar gyfer cwsmeriaid domestig sy'n cael trafferth talu eu biliau dŵr. Mae'r cwmni wedi atal taliadau dros 45,000 o fusnesau sydd wedi gorfod cau oherwydd cyfyngiadau yn y DU dros dro hefyd.

Daw’r cynnydd mewn cymorth wrth i'r cwmni gyhoeddi ei ganlyniadau ariannol a gweithredol canol blwyddyn, sy'n dangos bod Dŵr Cymru'n dal i fod mewn sefyllfa ariannol gadarn er gwaethaf yr ansicrwydd sydd wedi dod yn sgil COVID-19. Mae'r cwmni wedi buddsoddi £187 miliwn yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ac mae e ar y trywydd iawn i gwblhau cynlluniau buddsoddi mawr fel gosod peiriannau treulio anaerobig uwch ym Mharc Ynni Pum Rhyd, Wrecsam, a Gweithfeydd Trin Dŵr Rhostir Cog ym Mro Morgannwg, gan gynnyddu faint o ynni gwyrdd y gall y cwmni ei gynhyrchu o'r gwastraff y mae'n ei drin.

Mae'r cwmni, sy'n darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff ar gyfer dros dair miliwn o gwsmeriaid, wedi chwarae rôl allweddol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd, gyda chydweithwyr gweithredol yn cynnal ei wasanaethau hanfodol ar draws Cymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy.

Mewn ymateb i'r pandemig, ehangodd Dŵr Cymru ei dechnoleg gweithio o bell yn gyflym er mwyn galluogi i'w ganolfan gysylltu gyfan symud i weithio gartref ym mis Mawrth, ac mae'r cwmni wedi cychwyn gwasanaeth "rhith-archwiliadau" i gynorthwyo cwsmeriaid i ddatrys problemau heb fod angen ymweld ag eiddo yn bersonol. Mae'r dulliau newydd yma o weithio wedi galluogi'r cwmni i gadw ei statws ym 50 uchaf y mesur UKCSI ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid – a hi yw’r unig gwmni cyfleustod y gyrraedd y rheng uchaf yma.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons CBE: "Fel busnes nid-er-rhanddeiliaid, nid yw ein pwrpas a'n gweledigaeth o ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd erioed wedi bod yn bwysicach, gyda'n cydweithwyr yn wynebu’r sialensiau mwyaf erioed i gadw gwasanaethau'n rhedeg ar gyfer ein cwsmeriaid ddydd a nos.

"Er gwaetha'r cyfyngiadau a'r mesurau pellach i amddiffyn staff a chwsmeriaid wrth i ni barhau i weithio yn ein cymunedau, a hynny'n ogystal â'r sialensiau gweithredol a ddaeth yn sgil cyfnod estynedig o dywydd poeth a sych ddechrau'r haf, a'r glaw eithriadol o drwm a ddilynodd wedyn ym mis Mehefin, mae'r cwmni wedi cynnal sefyllfa ariannol a gweithredol cadarn sy'n argoeli'n dda ar gyfer ail hanner y flwyddyn.

"Hoffwn ddiolch i'm holl gydweithwyr am eu gwaith bendigedig i sicrhau  parhad gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff ein cwsmeriaid er gwaetha sialensiau'r pandemig, ac i'n cwsmeriaid hefyd am eu cefnogaeth wrth i ni barhau i weithio allan yn eu cymunedau."


Mae'r cwmni wedi bod wrthi'n ddiwyd yn cynllunio ac yn paratoi'n ddwys ar gyfer yr ail don o COVID-19, gan fuddsoddi mewn offer amddiffynnol personol ar gyfer y staff, a rhoi ffocws ar les meddyliol a chorfforol cydweithwyr ar draws y busnes i gyd. Lansiwyd ymgyrch rymus i annog cwsmeriaid a all fod yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr i gysylltu er mwyn clywed pa gymorth sydd ar gael iddynt ar ffurf tariffau cymdeithasol.

Mae gweithwyr Dŵr Cymru wedi bod yn cydweithio hefyd ag ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, ac â Llywodraeth Cymru, i gyflawni profion mewn gweithfeydd dŵr gwastraff ar draws yr ardaloedd a wasanaethwn, er mwyn helpu i ddarogan a datgelu lefelau'r firws yn y gymuned. Er nad oes unrhyw dystiolaeth fod y coronafeirws yn lledu trwy systemau carthffosiaeth, mae gwaith i fesur presenoldeb y firws mewn carthffosiaeth yn gallu bod yn werthfawr wrth roi "rhybudd cynnar" am lefelau heintiad y coronafeirws mewn cymunedau.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Y 6 mis diwethaf yw'r cyfnod mwyaf ymestynnol ry’n ni erioed wedi ei weld fel cwmni. Rwy'n hynod o falch o'r ffordd rydyn ni wedi ymateb, ac yn parhau i ymateb, i'r sialensiau sylweddol sy'n ein hwynebu ni.

"Rwy'n arbennig o falch hefyd ein bod ni wedi gallu cynnig mwy o gymorth ar ffurf tariffau cymdeithasol i'r rhai sydd wir angen cymorth i dalu eu biliau. Mae gennym record sy'n flaenllaw yn y diwydiant yn hyn o beth, ac rydyn ni’n cynorthwyo mwy o bobl nag erioed ar hyn o bryd. Mae cydweithwyr y rheng flaen wedi brwydro amgylchiadau eithriadol o anodd i gynnal ein gwasanaethau ac amddiffyn iechyd y cyhoedd, ac rydyn ni'n benderfynol o ddal ati i godi i'r sialensiau hyn.

"Mae'n ddigon posibl y bydd y chwe mis nesaf llawn mor anodd â'r cyntaf, yn enwedig wrth i ni symud tua misoedd y gaeaf, ond bydd ein cydweithwyr yn dal ati i wneud eu gorau glas i fodloni disgwyliadau uchel ein cwsmeriaid."

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.