Dŵr Cymru'n ymuno â chymuned o fusnesau sydd wedi ymrwymo i gynnwys pobl anabl


12 Ionawr 2021

  • Dŵr Cymru'n ymuno â'r gymuned Gweithiwch Gyda Fi, sydd wedi ymrwymo i feddwl a gweithredu mewn ffordd wahanol o ran anableddau yn y gwaith.
  • Mae pobl sy'n byw ag anabledd ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na phobl nad ydynt yn anabl.
  • Mae'r cwmni'n un o gwta ugain yng Nghymru sydd wedi ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.

Dŵr Cymru Welsh Water, yr unig gwmni dŵr a charthffosiaeth nid-er-elw yn y DU, yw'r diweddaraf mewn cyfres o gwmnïau blaengar i ymuno â'r gymuned Gweithio Gyda Fi (Work With Me).

Menter ar y cyd gan Scope a Virgin Media yw Gweithiwch Gyda Fi, a'i nod yw meithrin cymuned o fusnesau sydd wedi ymrwymo i feddwl a gweithredu mewn ffordd wahanol mewn perthynas ag anableddau. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl sy'n byw ag anabledd ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na phobl nad ydynt yn anabl, ac mae ymchwiliadau Gweithiwch Gyda Fi wedi canfod bod chwarter o fusnesau'n dweud nad ydynt erioed wedi cyfweld ag ymgeisydd anabl wrth lenwi swydd.

Fel un o gwta ugain cwmni yng Nghymru sydd wedi ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, mae Dŵr Cymru'n hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn y gwaith trwy ei ymgyrch 'Ti Dy Hun' fewnol sy'n annog ei holl weithwyr i hyrwyddo diwylliant o barch rhwng pobl.

Y cwmni yw’r diweddaraf i ymuno â’r fenter Gweithiwch Gyda Fi, ac mae’n ymuno â busnesau sy’n cynnwys Virgin Media, Ford, Deloitte, Elsevier, a JCB, sydd oll wedi ymrwymo i gofleidio pobl ag anableddau yn y gweithle.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Rydyn ni wedi ymrwymo i greu’r amgylchedd mwyaf cynhwysol posibl yn Dŵr Cymru, fel bod pawb yn gallu gwneud eu gwaith i ennill hyder ein cwsmeriaid ym mhopeth a wnawn, a hynny wrth fod yn nhw eu hunan yn y gweithle. Mae ymuno â'r gymuned Gweithiwch Gyda Fi yn gam pwysig ar ein siwrnai i newid ein dulliau o fynd ati i recriwtio a chadw'r bobl fwyaf dawnus.

"Rydyn ni wedi gwneud cynnydd calonogol wrth feithrin yr amgylchedd yma, ond rydyn ni'n gwybod bod tipyn o ffordd i fynd gan y diwydiant dŵr er mwyn gwneud ein gweithleoedd yn ddeniadol ac yn hygyrch fel y gall pobl anabl ffynnu ynddynt."

Trwy ymuno â chymuned Gweithiwch Gyda Fi, bydd Dŵr Cymru'n elwa ar gyfleoedd i ddysgu gan fusnesau eraill a rhannu profiadau, yn ogystal â chyrchu adnoddau, newyddion a gwybodaeth am gyflogi pobl anabl.

I weld pa swyddi sydd ar gael yn Dŵr Cymru ar hyn o bryd, ewch i jobs.dwrcymru.com.