Datgelu’r cynlluniau ar gyfer cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd


20 Gorffennaf 2020

Mae'r cynlluniau cyffrous ar gyfer chwaraeon dŵr, gweithgareddau awyr agored a hyb newydd sbon i ymwelwyr ar safle dwy gronfa ddŵr yng Nghaerdydd wedi cael eu datgelu am y tro cyntaf.

  • Cais cyn-cynllunio’n datgelu cynlluniau i greu hyb ymwelwyr, a chynlluniau cyffrous ar gyfer chwaraeon dŵr a gweithgareddau awyr agored
  • Ymhlith y gweithgareddau eraill mae darpariaeth addysg, cyfleusterau i gynnal cyfarfodydd, a diogelu a chyfoethogi ecoleg

Cymrodd Dŵr Cymru Welsh Water, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, awenau safle cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yng ngogledd Caerdydd yn 2016, a chyhoeddodd y cynlluniau ar gyfer y cyfleusterau newydd heddiw.

Mae'r cynlluniau – a gyhoeddwyd yn rhan o'r cais cyn-cynllunio y mae’r cwmni’n ei gyflwyno i Gyngor Caerdydd – yn dilyn tair blynedd o fewnbwn a chysylltiadau â thrigolion lleol a Grŵp Gweithredu'r Gronfa, Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid lleol wrth weithio tuag at adfer y cronfeydd.

Mae'r cynlluniau ar gyfer y safle’n cynnwys:

  • Hyb i ymwelwyr â chaffi a golygfeydd panoramig dros y cronfeydd
  • canolfan chwaraeon dŵr a fydd yn cynnig gweithgareddau fel hwylio a phadlfyrddio, ynghyd â chawodydd ac ardal newid
  • ardaloedd cyfarfod sy'n addas i ysgolion a grwpiau cymunedol eu defnyddio
  • llwybrau cerdded a llwybr natur â chyfleusterau dehongli i dynnu sylw at nodweddion o ddiddordeb
  • cuddfannau gwylio adar
  • ardaloedd cadwraeth
  • ardal ddysgu gydag ystafell ddosbarth awyr agored a thŷ crwn Cymreig.

Mae'r cyfleuster yn rhan o gynlluniau Dŵr Cymru i hyrwyddo ac ehangu mynediad i safle'r cronfeydd dŵr, ac mae'n gwireddu ymrwymiad y cwmni i adfer y cronfeydd o Oes Fictoria i'w hen ogoniant. Bydd yr arlwy yn helpu'r cwmni i wireddu ei weledigaeth i droi'r safle yn hyb ar gyfer hamdden, iechyd a lles - a darparu lle y gall pobl ailgysylltu â'r dŵr a'r amgylchedd yn y brifddinas fywiog.

Ar ôl cyfnod o ansicrwydd ynghylch dyfodol y cronfeydd, ymrwymodd y cwmni i sicrhau dyfodol diogel i’r safle fel y gallai pobl ei fwynhau am ddegawdau i ddod.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r cwmni wedi bod yn gweithio'n galed i adfer strwythurau'r cronfeydd er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a thrwsio ac adfer llawer o'r offer sy’n angenrheidiol er mwyn i'r cronfeydd dŵr weithredu.

Am fod y safle wedi ei ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) am ei ffwng cap cwyr a'r adar sy'n treulio'r gaeaf yno, mae'r cwmni wedi bod yn cydweithio'n agos ag arbenigwyr yn y maes i sicrhau bod gwaith y gwaith adfer a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cael eu cyflawni gan amddiffyn planhigion a bywyd gwyllt.

Mae hyb newydd y ganolfan ymwelwyr, yr ardal barcio a'r llwybr fynediad yn amodol ar ganiatâd cynllunio, ac mae'r cais cyn-cynllunio wedi cael ei gyflwyno i'r awdurdod lleol erbyn hyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Rydyn ni wrth ein boddau i allu cyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer yr hyb gweithgareddau ac ymwelwyr newydd yn Llys-faen a Llanisien. Fel cwmni nid-er-elw sydd mewn perchnogaeth ar ran ein cwsmeriaid, rydyn ni'n cydnabod y manteision o ran lles sy'n dod o gael ymweld â safleoedd cronfeydd dŵr. "Mae ein cynlluniau ar gyfer Llys-faen a Llanisien, am y ganolfan ymwelwyr a'r gweithgareddau eraill fydd ar gael, yn adlewyrchu hyn, a byddant yn cynnig profiad cynhwysol i’r bobl sy’n dod i ymweld.

“Yn ogystal â gwrando ar safbwyntiau'r gymuned ynghylch beth y byddent yn hoffi ei weld ar y safle, rydyn ni wedi bod yn ofalus iawn i amddiffyn a chyfoethogi ei ecoleg unigryw wrth ddatblygu ein cynlluniau".

Mae'r holl ddogfennau cyn-cynllunio, sy'n darparu manylion llawn y cynlluniau, ynghyd â chanfyddiadau'r holl astudiaethau a gyflawnwyd, ar gael i’w harchwilio. Gellir gweld yr holl ddogfennau trwy fynd i dwrcymru.com/lisvaneandllanishen lle gall pobl gyflwyno eu sylwadau am y cynigion hefyd. Rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau i Ddŵr Cymru erbyn 5pm dydd Llun, 17 Awst 2020. Gall pobl fynd i’r rhith-ystafell wybodaeth y mae'r cwmni wedi ei chreu hefyd, sydd eto ar gael ar wefan y cwmni - dwrcymru.com/lisvaneandllanishen Mae'r ystafell yn amlinellu'r cynlluniau, a bydd cyfleuster "sgwrs fyw" ar gael lle bydd aelodau o dîm y prosiect wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sy'n codi.

Cynhelir y sesiynau hyn:

  • Dydd Mawrth 21 Gorffennaf – 3pm i 5pm
  • Dydd Iau 23 Gorffennaf – 1pm i 3pm
  • Dydd Llun 27 Gorffennaf – 10am i 12pm
  • Dydd Gwener 31 Gorffennaf – 2pm i 4pm
  • Dydd Mawrth 4 Awst – 3pm i 5pm
  • Dydd Iau 6 Awst – 1pm i 3pm
  • Dydd Llun 10 Awst - 10am i 12pm
  • Dydd Mercher 12 Awst – 2pm i 4pm

Ychwanegodd Pete Perry: "Rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod cymunedau yn yr ardal yn ymwybodol o'r cynlluniau, a'u bod yn cael cyfle i chwarae rhan yn y broses gynllunio.

"Rydyn ni'n rhyddhau'r wybodaeth ar lein a thrwy'r rhith-ystafell wybodaeth fel y caiff pobl gyfle i gyfrannu a dod i gasgliadau gwybodus am y prosiect.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r gymuned leol i gyflawni'r prosiect yn ystod y broses gynllunio."