Staff Dŵr Cymru'n ymuno yn yr hwyl ar gyfer Plant mewn Angen


13 Tachwedd 2020

Gyda'r coronafeirws yn atal pobl rhag ymgynnull – y tu fewn neu'r tu fas – mae staff Dŵr Cymru wedi mynd â chodi arian i lefel rithwir newydd yn ystod wythnos Plant mewn Angen.

Daeth staff ar draws y cwmni at ei gilydd ar lein i gymryd rhan mewn chwe gwahanol digwyddiad i godi arian – gan gynnwys sioe 'Radio Dŵr' fyw lle gallai pobl gyfrannu arian er mwyn cael dewis caneuon, a chwis ar lein. Gyda'i gilydd, cymerodd dros 300 o bobl ran yn y digwyddiadau ar lein ar y diwrnod.

Ar wahân i'r ymdrechion rhithwir i godi arian, ymrwymodd Dŵr Cymru i gyfrannu £5 at Blant mewn Angen am bob llun oedd yn dod i mewn gan weithwyr rheng flaen y cwmni oedd yn cymryd rhan yn yr hwyl wrth fynd o gwmpas eu pethau.

Llwyddodd cydweithwyr Dŵr Cymru i godi £2,300 at Blant mewn Angen, ac i ddathlu eu hymdrechion, cyfrannodd y cwmni £2,000 pellach, gan fynd â chyfanswm y swm a godwyd i dros £4,300.

Dywedodd Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Chyfathrebu Dŵr Cymru; "Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb, ond mae Plant mewn Angen wedi bod yn gyfle da i bawb gymryd rhan a chael hwyl wrth godi arian. Mae hi'n fendigedig ein bod wedi codi swm mor sylweddol, ac y bydd yr arian yn mynd at achos mor werth chweil".

'Cwmni nid-er-elw' yw Dŵr Cymru sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gan Ddŵr Cymru, ac mae'r holl elw ariannol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.