Penodi Jane Hanson yn Gyfarwyddwr Anweithredol Glas Cymru


4 Rhagfyr 2020

Mae Glas Cymru, y cwmni nid-er-elw sy'n berchen ar Ddŵr Cymru, wedi cyhoeddi heddiw bydd Jane Hanson yn ymuno â'i Fwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar 1 Ionawr 2021.

Gwnaed y penodiad hwn er mwyn paratoi ar gyfer ymddeoliad John Warren fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio ym mis Gorffennaf 2021.

Mae gan Ms Hanson dros bum mlynedd ar hugain o brofiad o arwain a rheoli sefydliadau mawr sy’n cael eu llywio gan gwsmeriaid, ac yn enwedig mewn marchnadoedd rheoledig ac sy'n cael eu gyrru gan ddefnyddwyr. Ar hyn o bryd, mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Direct Line Insurance Group plc (ers 2011) a William Hill plc (ers 2019), gan wasanaethu fel aelod o Bwyllgorau Archwilio'r ddau gwmni, ac mae hi wedi bod yn gadeirydd ar Bwyllgor Risg Bwrdd Direct Line ers 2011. Mae hi'n Gadeirydd ar The Reclaim Fund Ltd hefyd.

Mae gan Ms Hanson brofiad cadarn ym meysydd rheoli risg, llywodraethu corfforaethol a rheolaeth fewnol o'i chysylltiad â chwmnïau mewn marchnadoedd sy'n cael eu rheoleiddio'n dynn. Mae ei rolau Gweithredol blaenorol yn cynnwys rôl Cyfarwyddwr Archwilio a Chyfarwyddwr Llywodraethu gydag Aviva plc.

Yn ogystal â'i rolau cyfredol fel Cyfarwyddwr Anweithredol, mae Ms Hanson yn Drysorydd Anrhydeddus ac yn Ymddiriedolwr i'r Pwyllgor Argyfyngau. Mae Jane yn Gymrawd i Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n Ynad Heddwch hefyd.

Dywedodd Alastair Lyons, Cadeirydd Glas Cymru: "Rydw i wrth fy modd fod Jane wedi derbyn ein cynnig i ymuno â Bwrdd Glas Cymru. Mae ganddi brofiad aruthrol fel Cyfarwyddwr Gweithredol ac Anweithredol, ac mae hi mewn sefyllfa i wneud cyfraniad sylweddol iawn at Glas Cymru diolch i’w chefndir ym maes llywodraethu corfforaethol a'i phrofiad o ddiwydiannau rheoledig.

Bydd profiad maith Jane fel uwch gyfarwyddwr anweithredol yn helpu i lywio'r Bwrdd trwy gyfnod heriol iawn i'r cwmni, wrth i ni barhau i weithio er mwyn cynnal gwasanaethau o safon uchel ar gyfer ein tair miliwn o gwsmeriaid yn ystod y pandemig, ac wrth i ni weithredu ein rhaglen fuddsoddi pum mlynedd o hyd, a ddechreuodd ym mis Ebrill eleni."

Dywedodd Jane Hanson"Rydw i wrth fy modd i gael ymuno â Bwrdd Glas Cymru ar adeg mor bwysig, ac rwy'n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn helpu'r Bwrdd i gynorthwyo'r cwmni i barhau â’i rôl allweddol wrth gynnal a gwella ei wasanaethau hanfodol ar gyfer cwsmeriaid.

Rwy'n hapus iawn i gael ymuno ag un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ac un o'i gwmnïau pwysicaf, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cychwyn arni gan gynorthwyo'r tîm Gweithredol i ddal ati i wireddu gweledigaeth y cwmni i ennyn ffydd ei gwsmeriaid bob un dydd."