Hwb ariannol i ardal brydferth yn Abertawe

  • Mae Dŵr Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Abertawe a Chanŵio Cymru, wedi diogelu gwerth £103k o gyllid 'Mynediad at Ddŵr' gan Lywodraeth Cymru.
  • Daw Cronfeydd Lliw ger Abertawe’n hyb ar gyfer hamdden, iechyd a lles, gyda phontŵn a golchfa gychod, gwell llwybrau, deunyddiau dehongli a llwybr natur trwy’r goedwig.
  • Bydd hyn yn cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac 'adferiad gwyrdd' yng Nghymru.

Mae ardal brydferth sy'n agos at galonnau pobl Abertawe wedi diogelu grant 'Mynediad at Ddŵr' gwerth £103k gan Lywodraeth Cymru a fydd yn hwyluso amrywiaeth o welliannau  i’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yng nghronfeydd dŵr Lliw.

Mae'r cyllid 'Mynediad at Ddŵr' yn garreg filltir bwysig wrth gyflawni'r uchelgeisiau ar gyfer y safle. Bydd yn hwyluso amrywiaeth o chwaraeon rhwyfo ar y gronfa, gan gynnwys rhwyf-fyrddio, canŵio a chaiacio. Bydd yn caniatáu ar gyfer creu golchfa gychod at ddibenion bioddiogelwch a phontŵn sy'n caniatáu i bobl o bob gallu fwynhau’r dŵr.  Mae llawer o glybiau lleol wedi mynegi diddordeb brwd mewn defnyddio'r gronfa’n rheolaidd i gynnal gweithgareddau chwaraeon dŵr. Mae'r safle eisoes yn boblogaidd gyda phobl leol sy'n mwynhau'r caffi, y siop fach a'r llwybrau cerdded.  

Ymhlith y gwelliannau eraill i’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr mae creu llwybr cyhoeddus newydd ar  ochr orllewinol cronfa Lliw Isaf er mwyn cysylltu llwybr MW16 â'r tir comin, a chreu llwybr cerdded cylchol o gwmpas y gronfa, a gaiff ei fabwysiadu gan Gyngor Abertawe.    Caiff y llwybr anffurfiol trwy Goetir Brynllefrith ei uwchraddio fel ei fod yn addas i gadeiriau olwyn a beiciau, ac fel bod modd ei ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn. Mae yna gynlluniau ar gyfer deunyddiau dehongli newydd, a llwybr natur gyda cherfiadau pren i ymwelwyr fwynhau holl natur ardal y gronfa. Mae'r safle'n ardal o harddwch naturiol eithriadol ac yn rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, un o'r ardaloedd o dirweddau o bwys arbennig sy'n diffinio Cymru. Mae'r cronfeydd wedi eu hamgylchynu gan fosaig o gynefinoedd ac maent yn cynnal amrywiaeth eang o fflora a ffawna, y mae llawer ohonynt yn rhai prin.

Mae'r prosiect yn un delfrydol i helpu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n mynnu bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru'n meddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau er mwyn gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac er mwyn atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a'r newid yn yr hinsawdd. Er nad yw Dŵr Cymru'n gorff cyhoeddus, mae'r cwmni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chanŵio Cymru yn ysbryd y ddeddfwriaeth.

Mae Llywodraeth Cymru am weld rhanddeiliaid yn cymryd camau pendant ar y cyd i gynyddu mynediad hamdden at ddyfroedd mewndirol, yn unol â rheoliadau Covid-19, gyda'r deilliannau canlynol:

  • Mwy o gyfranogiad a chyfranogiad mwy cyson ar draws amrywiaeth o fathau o weithgareddau hamdden:
  • Mwy o ddyfroedd mewndirol yn hygyrch am fwy o amser.

Trwy weithio mewn partneriaeth, mae Dŵr Cymru’n credu y gall cronfeydd dŵr Lliw wneud cyfraniad cadarnhaol at y weledigaeth hon.

Bydd datblygiad cronfeydd dŵr Lliw at ddibenion mynediad a hamdden yn cynorthwyo adfywiad gwyrdd yng Nghymru trwy gyfoethogi'r amgylchedd naturiol; gwella'r profiad i ymwelwyr, y seilwaith a'r cyfleusterau; a meithrin partneriaethau cadarn yn lleol.  Bydd yn cyfrannu at amcanion Bwrdd Sector Cyhoeddus Abertawe ar iechyd a lles trwy ddarparu cyfleusterau hygyrch o safon, hwyluso mynediad at yr amgylchedd naturiol a gwella iechyd a lles, creu ymdeimlad o falchder a pherthyn trwy hyrwyddo mwy o ddefnydd ac ymdeimlad o berchnogaeth.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, "Mae cronfeydd dŵr Lliw Uchaf a Lliw Isaf yn darparu cyflenwadau dŵr yfed, felly mae amddiffyn ansawdd y dŵr o'r pwys mwyaf,  wrth ddiogelu lle naturiol prydferth sy'n bwysig iawn i bobl leol hefyd. Bydd y prosiect yma'n mynd â ni gam yn agosach at wireddu ein huchelgeisiau i ailgysylltu pobl â dŵr a'r amgylchedd. Rydyn ni'n gobeithio y daw'r safle'n hyb ar gyfer iechyd a lles sy'n galluogi ymwelwyr i feithrin cysylltiadau dyfnach â'r awyr agored."

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Dyma esiampl ragorol o gynllun sy'n cynyddu cyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored, ac yn darparu mynediad diogel at y dŵr i bobl o bob gallu.  Bydd datblygiad y cronfeydd hyn yn caniatáu i ragor o bobl leol ac ymwelwyr gael mwy o fwynhad o'r lle bendigedig hwn wrth ddilyn canllawiau Covid-19, ac yn helpu i gynorthwyo adfywiad gwyrdd yng Nghymru. Gobeithio y bydd llwyddiant y prosiect yma'n hyrwyddo datblygiad nifer o gyfleoedd eraill tebyg yn y blynyddoedd sydd i ddod."

Ychwanegodd Phil Stone, Rheolwr cynllun Mannau i Badlo Canŵio Cymru, sef corff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon rhwyfo yng Nghymru, "Rydyn ni'n hynod o falch o gael gweithio gyda Dŵr Cymru i'w cynorthwyo i wireddu eu huchelgais i ailgysylltu pobl â'r amgylchedd dyfrol. Rydyn ni wedi gweld cynnydd anferth yn y galw am ganŵio, caiacio a rhwyf-fyrddio yn ddiweddar, ond mae'r nifer gyfyngedig o leoliadau sy'n addas i rwyf-fyrddwyr newydd yng Nghymru wedi bod yn rhwystr erioed. Bydd agor cyfleoedd yn Lliw yn ei gwneud hi'n bosibl i bobl o bob gallu fwynhau'r dŵr, ac i lawer ohonynt ddarganfod cariad at chwaraeon rhwyfo a meithrin cysylltiad dwys â'r awyr agored."

Dywedodd Dave MacCallum, Ymgynghorydd Arbenigol Mynediad at Ddŵr ac Adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru a Chadeirydd Is-grŵp Mynediad at Ddŵr NAFW, "Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o'r cydweithio pwysig yma yn ne Cymru; mae CNC wedi ymrwymo i hwyluso hamdden gyfrifol a chynhwysol ar ddyfroedd mewndirol Cymru. Bydd y datblygiad yma’n golygu y gall cronfeydd Lliw elwa ar gyfleusterau mynediad at chwaraeon rhwyfo i bobl o bob gallu, ynghyd â gorsaf Bioddiogelwch a fydd yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r cod ymarfer Gwirio Glanhau Sychu; a bydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer mynediad hamdden at ein dyfroedd mewndirol i bobl heddiw a chenedlaethau'r dyfodol."