Environment Icon

Dŵr Cymru i adfer cronfa i'w chyflwr naturiol


30 Mai 2019

Mae gwaith wedi dechrau i adfer cronfa ddŵr i fel yr oedd hi’n wreiddiol nôl yn Oes Fictoria, a chreu cyfleoedd newydd i fynd am dro yn ei chyffiniau.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi dechrau gwaith ar brosiect i adfer cronfa ddŵr y Neuadd Isaf, Powys, fel ei bod hi’n nes at ei chwrs naturiol fel yr oedd yn Oes Fictoria.

Nid oes angen y gronfa fel adnodd dŵr mwyach, felly bydd y cwmni'n addasu'r argae sydd yno ar hyn o bryd er mwyn caniatáu i'r dŵr lifo i lawr y cwm yn naturiol.

Yn rhan o'r prosiect a fydd yn cymryd rhyw 12 mis i’w gwblhau, caiff llwybr cyhoeddus a phont newydd eu creu fel y gall pobl leol ac ymwelwyr barhau i fwynhau cerdded yn yr ardal – a chaiff y llwybr cyfredol ei wyro yn ystod y gwaith. Caiff unrhyw ardal lle bwriedir cyflawni gwaith - gan gynnwys y gwaith ar yr argae - ei hadfer er mwyn sicrhau y cynhelir prydferthwch yr ardal leol ac er mwyn darparu gwell cynefinoedd ar gyfer ecoleg naturiol y lle.

Mae lefelau'r dŵr yn y gronfa’n cael eu gostwng yn raddol fel gellir cyflawni'r gwaith yn ddiogel. Mae'r cwmni'n cydweithio'n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn ymdrech bwrpasol i darfu cyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt a chynefinoedd lleol.

Yn rhan o hyn, symudwyd pysgod y gronfa i gynefin newydd, a byddwn ni’n monitro hyn trwy gydol y prosiect. Trwy godi rhwystr pwysig i bysgod ac adfer llwybr y sediment i lawr y llif, daw’r gwaith â manteision pwysig i’r ardal wrth gysylltu cynefinoedd ar hyd afon y Taf Fechan.

Dywedodd Nick Parkin, Pennaeth Diogelwch Argaeau Dŵr Cymru: “Mae Cronfa Ddŵr y Neuadd Isaf wedi bod yn bwysig wrth gyflenwi ein cwsmeriaid â dŵr ffres a glân ers blynyddoedd mawr, ond nid yw'n rhan o'n cynllun adnoddau dŵr mwyach. Byddai cynnal yr argae a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r canllawiau a'r rheoliadau diweddaraf yn defnyddio llawer o'r adnoddau sydd eu hangen arnom gadw ein cronfeydd hanfodol yn y cyflwr gorau posibl.”

“Am hynny, cytunwyd adfer cronfa'r Neuadd Isaf i'w chyflwr naturiol. Fe welwch chi ein timau'n gweithio'n galed ar y safle trwy gydol yr haf, a bydd eu gwaith yn caniatáu i'r dŵr lifo trwy'r cwm, fel yr oedd yn arfer ei wneud cyn adeiladu’r argae nôl ym 1884.”