People Icon

Dŵr Cymru yn lansio targed i fod â phedair gwaith yn fwy o ddefnyddwyr Cymraeg


5 Awst 2019

Cyhoeddir cynlluniau heddiw i fod â dros bedair gwaith yn fwy o gwsmeriaid sydd wedi cofrestru i reoli eu cyfrifon dŵr a charthffosiaeth yn y Gymraeg.

Cyhoeddodd Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr dielw yng Nghymru a Lloegr, y targed uchelgeisiol yn rhan o’i gynllun i gynyddu nifer y cwsmeriaid sy’n rhyngweithio â nhw yn yr iaith.

Credir mai dyma’r targed cyntaf o’i fath yn y sector preifat yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cynnwys ymrwymiad i fod â dros bedair gwaith yn fwy o gwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Cymraeg o’r 6,500 ar hyn o bryd i 25,000 erbyn 2025.

Mae Dŵr Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau dwyieithog fel y gall cwsmeriaid ryngweithio â nhw er mwyn rheoli eu cyfrifon, adrodd problemau neu gael gwybod am unrhyw waith sy’n digwydd yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys canolfan gyswllt bwrpasol ar gyfer y Gymraeg, gwefan sy’n gwbl ddwyieithog yn ogystal â sianeli cyfryngau cymdeithasol a chyfleuster sgwrsio ar-lein.

Gan fod cymaint o amrywiaeth o wasanaethau ar gael yn y Gymraeg, mae’r cwmni’n awyddus i sicrhau bod eu cwsmeriaid Cymraeg yn ymwybodol o’r gwasanaeth Cymraeg ac yn ei ddefnyddio. Dyna pam y maent wedi rhoi eu targed uchelgeisiol ar waith a fydd yn golygu cynnydd enfawr yn nifer eu cwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth Cymraeg.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Fel cwmni dielw sy’n canolbwyntio ar fodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid a rhagori arnynt, rydym ni’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella’r gwasanaeth a gynigir gennym. Mae’r gwasanaethau Cymraeg a gynigir gennym yn rhan annatod o hyn ac ers i ni fod yn gwmni dielw, rydym ni wedi buddsoddi’n sylweddol mewn cynyddu amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg.

“Ond mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud mwy na chynnig y gwasanaeth yn unig – mae’n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cael cymaint o siaradwyr Cymraeg ag sy’n bosibl i ddefnyddio’r gwasanaeth, gan ein bod ni’n gwybod bod galw amdano.

“Rydym ni’n gwybod bod rhwystrau’n bosibl ar gyfer pobl sy’n rhyngweithio â chwmnïau yn y Gymraeg. Dyna pam y byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn deall yn well sut i oresgyn y rhwystrau hyn - ac yn cydweithio er mwyn helpu’r iaith i ffynnu o ran defnydd dyddiol”.

Dywedodd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: “Mae gennym ni fel gwlad gynllun blaengar a chyffrous i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fel Llywodraeth rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r targed hwn a dwi wedi fy nghalonogi’n fawr bod yna gymaint o gefnogaeth ar draws y wlad i’r uchelgais hwn. Mae cael cwmni blaenllaw fel Dŵr Cymru yn gosod targed fel hyn i’w hunain yn galonogol ac yn cefnogi ein hymdrechion ni i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg”.

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: "Mae gwaith da wedi ei wneud eisoes gan Dwr Cymru yn datblygu eu gwasanaethau Cymraeg - datblygu sgwtsbot a negeseuon testun dwyieithog a sgyrsiau fideo gyda chwsmeriaid yn Gymraeg. Mae gosod y targed hwn yn gam mawr arall ymlaen ac i'w groesawu.”

Cafodd y targed ei lansio’n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Mae’r targed wedi’i gyflwyno hefyd yn rhan o fesurau llwyddiant Dŵr Cymru ar gyfer cyfnod buddsoddi 2020-2025. Caiff y mesurau hyn, gan gynnwys y targed ar gyfer y Gymraeg, eu monitro’n ffurfiol gan reoleiddiwr y diwydiant, Ofwat, a’u defnyddio fel mesur o ba mor llwyddiannus y mae’r cwmni wedi perfformio yn ystod y cyfnod.

I gyd-fynd â’r lansiad, mae Dŵr Cymru hefyd yn cynnal arolwg i gasglu sylwadau gan bobl ynghylch eu barn ar y gwasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig. Gellir dod o hyd i’r arolwg yn dwrcymru.com/welshsurvey