People Icon

Cyfarwyddwr newydd Gwasanaethau Dŵr wedi’i benodi gan Dŵr Cymru


22 Hydref 2019

  • Bydd Dr Simon Earl yn ymuno â’r cwmni dŵr nid-er-elw ym mis Ebrill 2020
  • Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau gyda South East Water
  • Mae ganddo brofiad yn y diwydiant gwyddonol a bu’n gweithio gyda Yorkshire Water a Thames Water
  • Ymhlith ei gyfrifoldebau bydd gweithredu Cynllun Busnes PR19 y Gwasanaethau Dŵr er mwyn helpu i gynnal perfformiad y cwmni yn awr ac i’r dyfodol

Mae Dŵr Cymru wedi cryfhau eu tîm gweithredol Gwasanaethau Dŵr trwy benodi Dr Simon Earl yn Gyfarwyddwr newydd Gwasanaethau Dŵr.

Bydd Dr Earl, sy’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau gyda South East Water ar hyn o bryd, yn ymuno â'r cwmni ar 2 Ebrill 2020 a bydd yn rhan o Dîm Gweithredol Dŵr Cymru.

Mae ganddo brofiad helaeth yn y diwydiant dŵr ac yntau wedi bod yn Bennaeth Cynhyrchu Dŵr gyda Thames Water, yn gyfrifol am redeg y busnes cynhyrchu dŵr mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac yn Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol a Rheolwr Trawsnewid Busnes gyda Yorkshire Water. Ymunodd â Yorkshire Water gyntaf yn 2003 fel Technegydd Ansawdd Dŵr.

Ymunodd â Thîm Gweithredol South East Water yn 2015, fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau.

Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar y Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr, sy'n sicrhau bod eitemau'n cydymffurfio â’r safonau uchel a bennir gan reoliadau dŵr, ac mae’n aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Ac yntau’n gyn-Lywydd y Sefydliad Dŵr yn rhanbarth y de-ddwyrain, enillodd ei dîm Wobr Arloesi Genedlaethol y sefydliad yn 2016 a chafodd ei enwebu am wobrau cenedlaethol eraill. Enwebwyd Dr Earl yn Gyfarwyddwr y Flwyddyn (Busnes Mawr).

Ar ôl graddio mewn Geneteg o Brifysgol Lerpwl, gwnaeth PhD mewn Geneteg Planhigion Uwch ym Mhrifysgol Nottingham.

Bydd Dr Earl yn ymuno â Dŵr Cymru ar yr un pryd ag y bydd y Rheolwr Gyfarwyddwr presennol, Peter Perry, yn dod yn Brif Weithredwr ym mis Ebrill, gyda Chris Jones ar fin ymddeol ar ôl dros chwe blynedd yn y swydd.

Dywedodd Dr Simon Earl: “Mae’n wych cael ymuno â thîm Dŵr Cymru ar adeg mor gyffrous i'r busnes. Rwy'n credu'n gryf mewn ysbrydoli pobl i sicrhau bod eu perfformiad, ansawdd eu gwaith a'u gwasanaeth i gwsmeriaid yn ddiogel ac yn cyrraedd safon eithriadol. Mae gan Dŵr Cymru enw da iawn am eu gwaith yn y meysydd hyn ac rwy’n edrych ymlaen at helpu'r cwmni i barhau i lwyddo yn y dyfodol.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaaethau Dŵr gyda Dŵr Cymru: “Daw Simon â chyfoeth o brofiad o'r diwydiant dŵr i'r swydd newydd hollbwysig hon - yn enwedig ei gefndir gwerthfawr yn rhwydwaith dŵr mwyaf y Deyrnas Unedig. Mae ganddo record ragorol o'i gyfnod yn gyfarwyddwr gyda South East Water ac rydym yn falch iawn ei fod yn dod â'r profiad hwnnw i Dŵr Cymru.

“Mae'n ymuno â ni ar adeg gyffrous, a ninnau'n paratoi ar gyfer cyfnod buddsoddi newydd ac yn sefydlu strategaeth i ddiogelu ein gwasanaeth cyhoeddus hanfodol ar gyfer ein cwsmeriaid yn y tymor hir, gan ostwng biliau cwsmeriaid ar yr un pryd.”

Magwyd Dr Earl yn Rochdale, Manceinion Fwyaf, a mynd i ysgol Crompton House. Erbyn hyn, mae’n byw yn Liphook, Hampshire, gyda’i wraig a dau o blant. Mae wrth ei fodd â rygbi ac yn un o hyfforddwyr Clwb Rygbi Haslemere.