Environment Icon

Gwasanaeth llogi chwistrell chwyn am ddim i helpu ffermwyr i amddiffyn ansawdd dŵr


6 Mehefin 2019

  • Cyfle i ffermwyr yn ardaloedd afonydd Teifi a Thywi a Blaenau afon Gwy
  • Llogi am dridiau rhwng Ebrill a Hydref 2019
  • Hon yw blwyddyn olaf y treial i ddiogelu ffynonellau dŵr yfed

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cadarnhau y bydd ei dreial chwistrell chwyn arobryn yn rhedeg am un flwyddyn arall yn rhan o'i brosiect PestSmart. Mae PestSmart yn annog pobl i ystyried dulliau doethach o reoli chwyn, plâu ac afiechydon ac yn annog storio, defnyddio a gwaredu plaladdwyr a chwynladdwyr yn ddiogel.

Trwy annog ffermwyr a pherchnogion tir i ystyried sut maen nhw’n mynd ati i reoli eu tir mewn ffordd sydd ddim yn effeithio ar ar bobl, dŵr neu fywyd gwyllt, nod y cwmni nid-er-elw yw amddiffyn ansawdd dŵr crai cyn iddo gyrraedd ei weithfeydd trin dŵr.

Gall ffermwyr a pherchnogion tir yn nalgylchoedd afonydd Tywi a Theifi a Blaenau afon Gwy logi chwistrell chwyn am ddim am dri diwrnod tan ddiwedd Hydref. Profwyd bod y chwistrell chwyn yn ddull effeithiol o reoli plâu o frwyn, ac maent yn cynnig pob math o fanteision i ffermwyr a'u tir.

Am fod y glyffosad yn mynd ar y chwyn yn uniongyrchol, mae’r chwistrell chwyn yn lleihau'n sylweddol faint o'r cemegolyn sy'n lledu ar y gwynt o gymharu â dulliau traddodiadol fel chwistrellu o bolyn neu sach gefn. Yn ogystal ag arbed arian i berchnogion tir, mae defnyddio llai o'r cemegolyn yn gallu lleihau'r risg i iechyd, i ddŵr ac i'r amgylchedd ehangach.

Mae Dŵr Cymru'n cynnig y fenter llogi offer am ddim yn rhan o PestSmart, ei brosiect â'r nod o ddiogelu ffynonellau dŵr yfed trwy hyrwyddo storio, defnyddio a gwaredu plaladdwyr yn ddiogel.

Mae Joanne Burford, Rheolwraig Dalgylch y cwmni'n esbonio:

"Yn 2015, datgelodd ein rhaglen gyffredin o waith monitro dŵr crai olion cynyddol o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad oeddem wedi eu gweld o'r blaen, felly aethom ati i weithio gyda ffermwyr lleol i ddatblygu'r ateb yma, sy'n llesol i bawb, i fynd i'r afael â'r mater.

"Trwy amddiffyn ansawdd y dŵr crai cyn iddo fynd i'n gweithfeydd trin dŵr, gallwn osgoi'r angen am ddefnyddio cemegolion ac ynni ychwanegol i wneud dŵr yfed yn berffaith i'n cwsmeriaid. Yn ogystal â'n helpu ni i gadw biliau'n isel, bydd hyn yn diogelu ac yn amddiffyn ein ffynonellau dŵr, a'r amgylchedd ehangach, am genedlaethau i ddod hefyd.

“Mae gan y chwistrell chwyn y fantais bellach ei fod wedi ei drwyddedu i'w ddefnyddio gyda Glyffosad yn unig, sy'n cymryd llai o lawer o amser i ddadelfennu mewn dŵr nag MCPA, sef y cemegolyn a ddefnyddir wrth chwistrellu o bolyn fel rheol. Mae cyfuniad o'r ffaith nad yw'r cemegolyn yn lledu ar y gwynt a'i fod yn defnyddio llai o'r cemegolyn yn ei gwneud yn ddull mwy diogel o reoli chwyn i ffermwyr ac i'r amgylchedd ehangach.”

Dywedodd John Dalton, ffermwr a pherchennog Dalton's ATVs, sy'n darparu'r cyfarpar, yn esbonio pam ei fod yn cymryd rhan yn y prosiect:

“Mae llu o fanteision i ddefnyddio chwistrell chwyn i drin chwyn glaswelltir. Fe ddefnyddion ni un ar ein fferm am y tro cyntaf tua 10 mlynydd yn ôl. Roedd hi'n syndod i ni cyn lleied o’r chwynladdwr yr oedd yn ei ddefnyddio o’i gymharu â chwistrell polyn neu sach gefn, ac roeddem ni wrth ein bodd ein bod wedi arbed cymaint o arian.

“Mae'r chwistrell chwyn mor hawdd ei ddefnyddio, ac mae'n cynhyrchu canlyniadau bendigedig ar frwyn, rhedyn ungoes, ysgall, tafol a chwyn, heb effeithio di, ar laswellt a meillion. Ac am fod Glyffosad yn lladd planhigion at y gwraidd, roedd yn fwy effeithiol na'r MCPA roeddem yn arfer ei ddefnyddio ar ein caeau.

"Mae ffermio a'r amgylchedd yn mynd law yn llaw, felly mae gweithio ar y prosiect gyda Dŵr Cymru wedi bod yn wych am ein bod ni'n gwybod ein bod ni'n helpu eraill i ymarfer ffermio cynaliadwy wrth amddiffyn yr amgylchedd dyfrol."

Mae prosiect PestSmart Dŵr Cymru yn cynnig cyngor ac atebion ymarferol sy’n rhydd o gemegau i reoli chwyn, plâu ac afiechydon, yn ogystal â mentrau am ddim i hyrwyddo storio, defnyddio a gwaredu plaladdwyr a chwynladdwyr yn ddiogel.

Ewch i www.dwrcymru.com/pestsmart i gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eich diddordeb mewn treialon a chynlluniau at y dyfodol.