Taclo Allyriannau
sy'n Ffoi


Mae nwyon tŷ gwydr yn cael eu rhyddhau yn y broses o drin dŵr gwastraff a biosolidau, ac rydyn ni'n galw'r rhain yn allyriannau sy'n ffoi. Methan, CH4 ac ocsid nitrus, N20 yw'r allyriannau hyn yn bennaf.

Mae'r ddau yn nwyon o bryder oherwydd eu potensial uchel o ran cynhesu byd-eang, 28-36 gwaith a 265-298 gwaith yn uwch yn eu trefn. Mesur o faint o ynni y bydd allyriannau'r nwy yn ei amsugno yw potensial cynhesu byd-eang neu GWP. Po fwyaf yw'r GWP, po fwyaf y bydd y nwy yn cynhesu'r ddaear o gymharu â CO2 dros yr un cyfnod o amser (100 mlynedd yw'r cyfnod a ddefnyddir fel rheol).

Er mwyn gwireddu gostyngiad sylweddol mewn allyriannau ffo, ein nod yw sicrhau rheolaeth uwch ar brosesau o leiaf 30 o weithfeydd trin Dŵr Cymru erbyn 2030. Bydd ein rhaglen ymchwil ac arloesi'n allweddol wrth gyflawni'r newid mawr sydd ei angen i gyflawni targedau 2040, a bydd hyn yn galw am ddefnyddio technolegau trin dŵr newydd ar raddfa helaeth.

Dros y misoedd nesaf, byddwn ni'n dechrau monitro rhai o'n gweithfeydd trin dŵr gwastraff er mwyn deall rhagor am effaith y prosesau ar gynhyrchiant ocsid nitrus. Bydd hyn yn caniatáu i ni ddeall pa welliannau y gellir ac y dylid eu gwneud i wella'r broses o dan sylw, a bydd hynny'n ein helpu ni i gyflawni ein gostyngiad (o 50%) mewn allyriannau o brosesau.