Arbed
Dŵr


Rydyn ni'n codi cwta 3% o'r glawiad effeithiol yng Nghymru at ddefnydd y cyhoedd, sy'n llai na rhannau eraill o'r DU, ac yn darparu cyflenwadau dŵr dros 3 miliwn o gwsmeriaid ar draws Cymru. Mae hyn yn golygu glanhau a dosbarthu mwy nag 830 miliwn o litrau o ddŵr pob dydd.

Bydd y newid yn yr hinsawdd yn golygu mwy o ddigwyddiadau o lawiad eithafol, ond bydd yn golygu hafau mwy cynnes a sych hefyd. Yn ogystal, mae'r galw am ddŵr yn newid oherwydd twf y boblogaeth, newidiadau mewn defnydd tir, ymddygiad cwsmeriaid a strwythur yr economi, fel y cynnydd mewn twristiaeth er enghraifft.

Mae'r bwlch rhwng y cyflenwad a'r galw yn cynyddu o hyd. Er mwyn helpu i daclo â hyn, byddwn n'n defnyddio ein cynllun rheoli adnoddau dŵr i sicrhau cydbwysedd cynaliadwy a fforddiadwy rhwng y cyflenwadau sydd ar gael a'r galw sydd amdanynt. Rydyn ni'n cynnig rhoi trosglwyddiadau dŵr, mesurau rheoli dŵr a rhaglenni lleihau gollyngiadau ar waith er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion.

Rydyn ni'n gwybod bod taclo’r newid yn yr hinsawdd yn bwysig i'n cwsmeriaid. Byddwn ni'n parhau i ofyn iddynt chwarae eu rhan trwy ddefnyddio'r dŵr sydd ei angen arnynt gan ofalu i beidio â'i wastraffu. Yn ogystal â sicrhau bod digon o ddŵr gennym i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, bydd hyn yn lleihau faint o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio wrth drin a phwmpio'r dŵr hefyd. Dyna pam ein bod am fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ailddefnyddio dŵr wedi ei drin a deunyddiau naturiol eraill a allai fod yn werthfawr, gan gyfrannu at yr economi cylchol yn ein rhanbarth lleol.

Yn rhan o'r broses o edrych ar y galw am ddŵr, rydyn ni wedi datblygu rhagolygon o'r galw yn ein parthau, gan amcangyfrif lefelau defnydd mewn blwyddyn poeth a sych, ac ar gyfer y cyfnod defnydd brig critigol. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth i ni o ran a allwn gyflenwi dŵr i'n holl gwsmeriaid yn gyson o dan yr amodau caletaf, gydag un llygad ar y risgiau a'r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth baratoi rhagolygon tymor hir.

Byddwn ni'n edrych ar y canlynol er mwyn helpu gyda'r diffyg rhwng cyflenwadau a galw:

  • Rheoli'r galw – arbed dŵr trwy gynorthwyo cwsmeriaid i leihau eu defnydd;
  • Ailddefnyddio dŵr – annog pobl i ailddefnyddio dŵr llwyd a chynaeafu dŵr glaw;
  • Mesuryddion dŵr – i gymell pobl i ddefnyddio llai o ddŵr;
  • Gollyngiadau – lleihau faint o ddŵr sy'n cael ei golli o fewn ein system trwy gynyddu ein buddsoddiad mewn monitro a thrwsio gollyngiadau, gan gynnwys y tu hwnt i ffiniau domestig;
  • Trosglwyddo a chyfnewid dŵr – ar draws parthau cwsmeriaid, nodau llesiant neu ffiniau cwmnïau, gan gydnabod y risgiau amgylcheddol cysylltiedig, fel ymlediad rhywogaethau anfrodorol;
  • Rheoli dalgylchoedd a chadw dŵr trwy ddulliau naturiol – ar dir uchel, mewn gwlyptiroedd ac ar orlifdiroedd; ac
  • Optimeiddio adnoddau dŵr – gan ddefnyddio ffynhonnell newydd o ddŵr neu gynyddu faint o ddŵr rydyn ni'n ei godi o ffynhonnell gyfredol.

Prosiect Cartref

Mewn ardaloedd targed dethol, gallwn ddarparu gwasanaeth cymorth uniongyrchol ar gyfer ein cwsmeriaid er mwyn eu cynorthwyo i ganfod a thrwsio gollyngiadau, neu eu cynorthwyo i atgyweirio diffygion lle mae dŵr yn gollwng yn eu cartrefi.

Darganfod mwy

Get Water Fit

Gall teclyn cyfrifo digidol Get Water Fit gan ein partneriaid Save Water Save Money eich helpu i wybod faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio bob dydd ac effaith hynny ar eich biliau ynni.

Darganfod mwy