Sut ydyn ni'n gwneud?


Mae Ymchwil Diwydiant Dŵr y DU Cyfyngedig, UKWIR, wedi datblygu llawlyfr safonol a methodoleg gysylltiedig i amcangyfrif allyriannau nwyon tŷ gwydr gweithredol, neu GHG, ar ffurf Llawlyfr Cyfrifo Carbon neu CAW, er mwyn dod â chysondeb a chywirdeb i'r broses adrodd ar draws y diwydiant dŵr.

Mae'r llawlyfr wedi bod yn gweithredu ers dros ddeng mlynedd bellach. Mae'n cael ei adolygu’n flynyddol i adlewyrchu arferion gorau a’r wyddoniaeth sy’n gysylltiedig ag amcangyfrif ac adrodd ar allyriannau nwyon tŷ gwydr ac mae’n cael ei ddiweddaru’n unol â hynny.

Ar wahân i’r CAW, mae Dŵr Cymru wedi paratoi eu hamcangyfrifon a’u hastudiaethau eu hunain ar yr allyriannau sy’n gysylltiedig â phrynu Nwyddau a Gwasanaethau Cyfalaf (carbon corfforedig) a’r allyriannau carbon sy’n cael eu dal a’u storio o’r daliannau tir sydd ym meddiant y cwmni ar hyn o bryd.

Mae'r Tabl a’r graff isod yn dangos niferoedd yr allyriannau ar gyfer 2020-2021 a gofnodwyd yn ein hadroddiad blynyddol ac yn ein hadroddiad i Ofwat (sef rheoleiddiwr economaidd y diwydiant);

Journey to Net Zero

Journey to Net Zero

Diffiniad: Prif ffynonellau allyriannau Dŵr Cymru
Cwmpas 1 Allyriannau Uniongyrchol. Allyriannau tŷ gwydr (GHG) uniongyrchol sy’n codi o ffynonellau sydd ym mherchnogaeth neu dan reolaeth sefydliad yw allyriannau Cwmpas 1 (e.e. allyriannau sy’n gysylltiedig â hylosgi tanwydd mewn bwyleri, ffwrneisi, cerbydau)
  • Allyriannau ffo (CH4, N2O)
  • Hylosgi tanwydd ffosil
  • Cerbydau’r cwmni
Cwmpas 2 Allyriannau Anuniongyrchol. Allyriannau GHG anuniongyrchol sy’n gysylltiedig â phrynu trydan, ager, gwres neu ddulliau oeri yw allyriannau Cwmpas 2.
  • Trydan a brynir
Cwmpas 3 Allyriannau Anuniongyrchol. Unrhyw allyriannau anuniongyrchol eraill (nad ydynt yn dod o fewn Cwmpas 2) sy’n codi trwy gadwyn gwerth y cwmni sy’n adrodd, gan gynnwys allyriannau i fyny ac i lawr y llif, yw allyriannau Cwmpas 3.
  • Nwyddau a gwasanaethau cyfalaf
  • Defnydd o drydan i drawsyrru a dosbarthu
  • Teithiau busnes
  • Gweithgareddau ar gontract

Mae allyriannau gweithredol yn cynrychioli’r allyriannau carbon sy’n gysylltiedig â’r holl weithgareddau pob dydd y mae Dŵr Cymru’n eu cyflawni o ddydd i ddydd er mwyn gwasanaethu ei gwsmeriaid. Nid yw niferoedd yr allyriannau carbon yn cynnwys carbon corfforedig, e.e. allyriannau i fyny’r llif sy’n gysylltiedig â phrynu nwyddau (cyfalaf).

Mae’r dull cyfrifo ar sail lleoliad yn cynrychioli’r ôl troed carbon a fesurwyd ar sail dwyster allyriannau cyfartalog y gridiau lle mae’r defnydd o ynni’n digwydd (gan ddefnyddio data ffactor allyriannau cyfartaleddau’r grid yn bennaf). Mae’r dull sy’n seiliedig ar y farchnad yn adlewyrchu’r allyriannau o drydan a nwy naturiol y mae cwmnïau wedi eu dewis yn fwriadol. Am hynny, mae’r dull sy’n seiliedig ar y farchnad yn adlewyrchu’r allyriannau o drydan a bio-methan y mae cwmni’n eu prynu (wedi eu hategu gan Warant Tarddiad), a all fod yn wahanol i’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol. Mae adrodd ar niferoedd sy’n seiliedig ar leoliad ac ar y farchnad yn arfer da.

Allyriannau gros yw cyfanswm eich holl allyriannau GHG (yn seiliedig ar leoliad neu’n seiliedig ar y farchnad) cyn cymryd unrhyw ostyngiadau mewn allyriannau sy’n gysylltiedig ag allforio trydan neu fio-methan i’r grid i gyfrif, tra bod allyriannau net yn cynnwys y gostyngiadau sy’n gysylltiedig â’r allforion hyn.

Dal a storio carbon yw’r broses naturiol neu ddynol (artiffisial) o ddal a storio carbon deuocsid o'r atmosffer. Mae hyn yn un dull o leihau faint o garbon deuocsid sydd yn yr atmosffer gyda’r nod o leihau’r newid byd-eang yn yr hinsawdd, ac mae’n gofyn am storio carbon mewn planhigion, pridd, ffurfiannau daearegol a’r môr yn y tymor hir.