Harneisio
Byd Natur


Mae ein gwasanaethau bioamrywiaeth ac ecosystemau ehangach yn wynebu bygythiadau sy'n cynnwys colli, chwalu a gor-ddefnyddio cynefinoedd. O dipyn i beth, bydd y tymheredd a'r newidiadau mewn patrymau glawiad yn effeithio ar fioamrywiaeth hefyd.

Byddwn ni'n chwilio am ffyrdd o helpu byd natur, cyfoethogi bioamrywiaeth a hybu gwytnwch ecosystemau wrth gyflawni ein gweithgareddau dŵr a charthffosiaeth. Mae ffynonellau dŵr yfed yn dibynnu ar ecosystemau sy'n gweithredu'n iach.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae dyletswydd ar Ddŵr Cymru i gyfoethogi bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau wrth i ni gyflawni ein swyddogaethau.

Rydyn ni'n symud y pwyslais i reoli dŵr mewn ffordd ragweithiol yn yr amgylchedd ehangach yn hytrach na'i drin yn adweithiol yn ein gweithfeydd trin. Trwy gydweithio'n agos â'n partneriaid a'n rheoleiddwyr, ein nod yw rhoi atebion sy’n fwy seiliedig ar natur ar waith yn ein dalgylchoedd. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau fel rheoli cynefinoedd, neu addasu arferion ffermio er mwyn lleihau neu osgoi risg i ansawdd dŵr, yn hytrach nac adeiladu rhagor o strwythurau dur a choncrit.

Trwy fenter newydd Mega Ddalgylch Bannau Brycheiniog, rydyn ni'n archwilio cyfleoedd pellach i gydweithio er mwyn gwella ansawdd dŵr wrth gyflawni manteision ar gyfer byd natur, ffermio a chymunedau, ac yn gwneud hynny yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl. Mae defnyddio atebion sy'n fwy seiliedig ar natur yn lleihau'r allyriannau corfforedig sy'n gysylltiedig â'n rhaglen fuddsoddi, a hynny wrth wella ansawdd dŵr ac elifiant.

Yn ogystal, mae ein cynllun bioamrywiaeth 'Neilltuo Amser ar gyfer Natur' a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu ein hymrwymiad amgylcheddol ac o ran bioamrywiaeth i gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a hybu gwytnwch ecolegol ein safleoedd a’r cymunedau a wasanaethwn.

Ac rydyn ni wedi buddsoddi er mwyn lleihau rhagor ar faint o faetholion sydd yn y dŵr gwastraff sy'n cael ei ddychwelyd i'n hafonydd ar ôl ei drin.

Darllenwch yr astudiaeth achos ar y gwaith rydyn ni'n ei gyflawni gyda megaddalgylch Bannau Brycheiniog, ac mae rhagor o wybodaeth yn ein cynllun Bioamrywiaeth.

Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog

Darllenwch yr astudiaeth achos ar y gwaith rydyn ni'n ei gyflawni gyda megaddalgylch Bannau Brycheiniog, ac mae rhagor o wybodaeth yn ein cynllun Bioamrywiaeth.

Darganfod mwy

Gwlyptiroedd: Rhan o'r ateb i fyd natur

Er enghraifft, byddwn ni'n dechrau adeiladu dau wlyptir ar Afon Llugwy er mwyn lleihau lefelau'r ffosffadau yn yr afon, a bydd hynny’n gwella'r bioamrywiaeth lleol yn sylweddol. Mae'r prosiect yma'n digwydd mewn partneriaeth â'r Awdurdod Lleol, datblygwyr lleol, Sefdyliad Gwy a Wysg, a'n rheoleiddwyr. Mae rhagor o fanylion yn ein hastudiaeth achos isod.

Darganfod mwy

GlawLif Llanelli

Rhwng 2013 a 2015, byddwn ni’n gwario £15 miliwn ar osod atebion GlawLif yn Llanelli a Thre-gŵyr, ac mae cynlluniau pellach ar y gweill ar gyfer y cyfnod hyd at 2020.

Darganfod mwy