Astudiaethau Achos


Mae pob rhan o'n busnes yn elwa ar ein prosiectau arloesi. Maent yn ein cynorthwyo ni i wella ein technoleg, diogelu'r amgylchedd a chadw biliau ein cwsmeriaid yn isel.

Teclynnau Geraint

Mae syniadau gwych yn gallu dod o unrhyw le, ac mae rhai o'n rhai gorau wedi dod gan ein cyflogeion.

Wrth weithio fel Gweithredwr Carthffosydd yn ne Cymru, roedd Geraint Williams yn dod yn fwyfwy rhwystredig pan nad oedd e a'i dîm yn gallu cyrraedd at eitemau oedd yn achosi rhwystrau yn y carthffosydd. O bennau mopiau a tedi bêrs, i weips a chewynnau, mae Geraint a'i gydweithwyr yn ffeindio pob math o bethau yn ein pibellau, a'u gwaith nhw yw clirio'r rhwystrau hyn.

Ond nid yw'r teclynnau sydd ar gael i gyrraedd y rhwystrau'n taro'r nod bob tro. Dyna pam y penderfynodd Geraint gymryd yr awenau a newid pethau. Ffeindiodd Geraint ei hun yn meddwl am y problemau ymhell ar ôl iddo adael y safle, a byddai'n mynd adref ac yn creu teclynnau yn ei sied.

Newidiodd teclynnau Geraint y ffordd roedd e a'i dîm yn gweithio. Roedd ei ddyfeisiau a'i declynnau'n ei alluogi i gyrraedd at fwy o rwystrau, ac ar sawl achlysur, maent wedi golygu na fu rhaid i ni dorri twll mewn ffordd neu gardd i leddfu'r rhwystr. Yn ogystal ag arbed amser a gwaith i Ddŵr Cymru, mae hyn wedi lleihau'r drafferth i'n cwsmeriaid, ac wedi ein galluogi i gyflawni'r gwaith yn gynt.

Mae Geraint wedi creu saith teclyn erbyn hyn, a diolch i gymorth Dŵr Cymru, mae e wedi ffeilio saith cais am batent. Nawr mae Dŵr Cymru'n gweithio gyda Geraint i weithgynhyrchu a dosbarthu'r teclynnau fel y gall y diwydiant ar led elwa arnynt.

Amddiffyn ansawdd dŵr yfed

Rydyn ni'n gwybod bod gweithgareddau sy'n digwydd yn y dalgylch (h.y. yr ardal o gwmpas cyrsiau dŵr lleol) yn effeithio ar ansawdd y dŵr crai a ddefnyddiwn i baratoi dŵr yfed. Gall llygredd o'r dalgylch fynd i'n hafonydd, gan effeithio ar y dŵr rydym yn ei godi, gan gynyddu'r angen am driniaeth ddrud. Rydyn ni'n ceisio datrys hyn trwy ein dulliau 'Rheoli Dalgylchoedd'.

Trwy ein gwaith monitro arferol, rydyn ni wedi bod canfod lefelau cynyddol o chwynladdwyr glaswelltir yn nalgylchoedd blaenau afon Gwy ac afon Teifi yn y canolbarth a'r gorllewin. Mae dŵr ffo o dir sydd wedi cael ei drin â chwynladdwyr er mwyn rheoli lledaeniad chwyn yn gallu achosi hyn, a dyma un o'r pethau sy'n gallu effeithio ar ansawdd y dŵr rydyn ni'n ei godi o'r afonydd.

Yn Ebrill 2015, lansiwyd treial arloesol chwe mis o hyd gyda'n partneriaid, a oedd yn rhoi cyfle i ffermwyr a rheolwyr tir yn yr ardaloedd fenthyg 'chwistrell chwyn' am ddim. Mae'r dull hwn o fynd ati'n fwy llesol na dulliau chwistrellu traddodiadol, am ei fod yn chwistrellu'r cemegolion ar y chwyn yn uniongyrchol. Mae hyn yn golygu nad oes angen defnyddio cymaint o'r cemegolion, sy'n golygu bod llai o lygredd yn mynd i'r cyrsiau dŵr lleol. Mae'r dŵr felly'n haws ei drin, ac mae hyn, yn ei dro, yn helpu i leihau'r costau i'n cwsmeriaid.

I gael rhagor o wybodaeth am y treial Chwistrellau Chwyn, cliciwch yma.

Gofalu am ein Hasedau - Rhwydweithiau Deallus

Mae ein carthffosydd yn heneiddio, ac mae hyn yn cynyddu'r risg o dagfeydd a chwalfa o fewn y carthffosydd, a'r posibilrwydd o lygru'r amgylchedd yn sgil hynny. Rydyn ni'n delio â rhyw 200 o rwystrau mewn carthffosydd y mis, ar gost o dros £7 miliwn y flwyddyn. Ond er ein bod ni wedi buddsoddi tua £1.5 biliwn yn ein rhwydwaith dŵr a charthffosiaeth rhwng 2010 a 2015, byddai'n cymryd dros 700 o flynyddoedd i adnewyddu'r rhwydwaith carthffosiaeth i gyd.

Trwy ddefnyddio dulliau arloesol o drin a dadansoddi data, gallwn fod yn fwy manwl wrth ddarogan ble mae tagfeydd yn debygol o ddigwydd erbyn hyn, gan leihau ein costau ac effaith llifogydd ar ein cwsmeriaid.

Gallwn ddefnyddio'r wybodaeth yma i gyflunio ein rhaglen o waith cynnal a chadw cynlluniedig hefyd - gan benderfynu ym mha garthffosydd y mae'r angen mwyaf dybryd am waith, a phryd y mae angen ei gyflawni.

Erbyn hyn, gallwn ddarogan ble mae problemau'n debygol o godi yn y dyfodol. Mae hyn yn ein galluogi ni i dargedu buddsoddiad yn ofalus, lleihau costau, a chyrraedd y tagfeydd cyn iddynt effeithio ar ein cwsmeriaid.

Darparu Dŵr Yfed o Safon Uchel - Gwella perfformiad ein pibellau

Gyda dros 27,000km o brif bibellau dŵr, mae gennym asedau ym mhob rhan o'n hardal weithredol. Hen brif bibellau haearn yw rhai o'n pibellau dŵr mwyaf, ac mae'r rhain yn gallu peri i'r dŵr afliwio weithiau. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi adnewyddu bron i 3,000km o hen bibellau haearn heb eu leinio, ond nid yw hyn yn ffordd gynaliadwy o ddatrys y broblem. Roedd angen felly i ni chwilio am ddulliau arloesol o ddod o hyd i'r ardaloedd mwyaf problemus fel y gallwn wella ansawdd ein dŵr a lleihau'r costau i'n cwsmeriaid.

Trwy gasglu data o ffynonellau niferus ar draws y busnes, rydyn ni'n datblygu dulliau hollol newydd o ddadansoddi a modelu perfformiad ein rhwydwaith, sy'n cynnwys cynhyrchu mapiau hunan-drefnu (SOM).

Mae'r SOMs yn cynhyrchu clystyrau o wybodaeth, sy'n ei gwneud hi'n haws i ni weld beth sydd wrth wraidd ansawdd dŵr gwael. Wedyn gallwn dargedu buddsoddiad yn fwy effeithiol, gan ystyried ymhle y byddai adnewyddu'r pibellau dŵr yn cynnig y gwerth gorau i'n cwsmeriaid.