Arloesi


Mae arloesi'n rhan o fywyd pob dydd yn Dŵr Cymru Welsh Water.Diolch i’n model gweithredu nid-er-elw sy'n unigryw yn y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr - lle mae'r holl elw'n mynd i gwsmeriaid - rydyn ni'n arloesi eisoes.

Rhaid i fod yn agored i syniadau newydd a meddylfryd arloesol, addasu i ffyrdd newydd o weithio a gweithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy fod yn sail i bob un peth a wnawn. Mae hyn yn ein helpu ni i gadw ein costau'n isel, cyfyngu ar ein heffaith ar yr amgylchedd, a darparu'r gwasanaethau gorau posibl am y gost fwyaf fforddiadwy - a'r cyfan er lles ein cwsmeriaid.

Rydyn ni wedi pennu’r prif sialensiau sy’n ein hwynebu yn ein gweledigaeth 2050: gyda hinsawdd sy'n newid, cyfeirebau rheoliadol a pholisïau newydd, a datblygiadau mewn technoleg, bydd ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff yn edrych yn wahanol iawn erbyn 2050. Bydd angen i ni gydbwyso'r newidiadau hyn yn erbyn sylfaen costau is o lawer, a mwy o gysylltiadau â'n cwsmeriaid, a bydd angen i ni ddatblygu dulliau mwy arloesol o weithio yn hynny o beth. Arloesi yw'r allwedd i gyflawni hyn.

Dyma gyfle i archwilio ffyrdd newydd o arloesi a allai ein helpu ni i gyflawni ein gweledigaeth 2050.

Rydyn ni wedi llunio strategaeth arloesi a chynlluniau siwrnai unigol, a fydd yn ein galluogi i gynllunio sut y byddwn ni'n codi i’r sialensiau mawr a ddaw i’n rhan yn y degawdau nesaf.

Ein Proses Arloesi

Ein gweledigaeth 2050

Rydyn ni’n agored i syniadau newydd bob amser. Os oes syniad, cynnyrch, technoleg neu gynnig ymchwil gennych sy'n gyson â'r sialensiau yn ein gweledigaeth 2050, rydyn ni'n agored i glywed amdanynt.

View our challenges

Cyflwynwch eich syniad

Cyflwynwch eich syniad i ni trwy ein porth ar lein.

Neu, os ydych o'r farn bod eich syniad arloesol yn addas ar gyfer pob cwmni dŵr, gallech ystyried ei gyflwyno i Gystadleuaeth Arloesi Ofwat.

Ein Hymateb


Byddwn ni wedyn yn ystyried eich syniad ac yn ymateb o fewn 6 wythnos.

Rydyn ni’n agored i syniadau newydd bob amser. Os oes syniad, cynnyrch, technoleg neu gynnig ymchwil gennych sy'n gyson â'r sialensiau yn ein gweledigaeth 2050, rydyn ni'n agored i glywed amdanynt.

Am fanylion sut rydyn ni'n gofalu am eich Gwybodaeth Bersonol, cliciwch yma.