Brynbuga


Fel cwmni, rydyn ni'n dibynnu ar yr amgylchedd am y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff a ddarparwn. Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldebau dros amddiffyn yr amgylchedd o ddifri, ac yn buddsoddi tua £1 miliwn y dydd mewn gwaith i wella a chynnal ein rhwydweithiau.

Ond rydyn ni'n gwybod hefyd bod cwsmeriaid am i ni wneud mwy, ac yn arbennig i helpu i amddiffyn ansawdd ein hafonydd, fel afon Wysg. Dyma pam rydym yn gweithio yn eich ardal i wella sut mae ein hasedau - fel Gorlifoedd Storm Gyfun - yn gweithredu.

Ar y dudalen hon fe gewch chi wybodaeth am y sialensiau sy'n ein hwynebu, y buddsoddiad o £10 miliwn y byddwn ni'n ei wneud dros y tair blynedd nesaf, a'r cyllid sydd ar gael i gynorthwyo'r gymuned ag achosion da yn yr ardal.

Beth yw'r broblem?

Mae ansawdd ein prif afonydd yn cael ei fonitro gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae yna bryder ynghylch ansawdd y dŵr ar rannau o afon Wysg am nad yw'n cyflawni'r hyn a elwir yn statws ecolegol 'da'. Mae hynny'n golygu bod gormod o gemegolion fel 'ffosfforws' yn yr afon, sy'n gallu achosi gordyfiant o algâu gan effeithio ar lefelau'r ocsigen sydd ar gael yn y dŵr a niweidio bywyd gwyllt.

Beth sy'n achosi hyn?

Mae yna nifer o ffactorau sy'n gallu cynyddu lefelau'r ffosffadau. Mae hyn yn cynnwys sut rydyn ni'n trin dŵr gwastraff cyn iddo gael ei ddychwelyd i'r amgylchedd. Er enghraifft, mae ein gwaith modelu ar Afon Wysg yn dangos bod ein hasedau ni (hynny yw, ein gweithfeydd trin, a'n Gorlifoedd Storm Cyfun neu CSOs) yn gyfrifol am rhwng 21% a 23% o'r ffosfforws yn y prif gyrff dŵr, a'r CSOs sydd i gyfrif am gwta 1% ohono. Mae'r gweddill - dros 75% - yn cael ei achosi gan ffactorau eraill, fel dŵr ffo o dir amaeth a baw anifeiliaid, draenio dŵr wyneb trefol, draeniau sydd wedi eu cam-gysylltu a thanciau septig preifat.

Fodd bynnag, rydyn ni'n deall bod hwn yn fater pwysig i drigolion lleol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i wneud beth gallwn ni i leihau ein heffaith ar afon Wysg.

Ein buddsoddiad

Dros y tair blynedd nesaf, byddwn ni'n buddsoddi dros £10 miliwn yng Nghymuned Brynbuga i wella'r ffordd mae ein gweithfeydd trin yn gweithio a lleihau nifer y gorlifoedd sy'n dod o'n Gorlifoedd Storm Cyfun. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn ni'n gweithio ar y safleoedd hyn ac ar y rhwydwaith o garthffosydd o fewn y briffordd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti yn ein carthffosydd i ddelio â'r gwastraff y maent yn ei dderbyn ac yn ei drin cyn ei ddychwelyd yn ofalus i'r amgylchedd lleol.

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae gennym dipyn sylweddol o waith i'w wneud. Bydd hyn yn cymryd amser, ond rydyn ni wedi ymrwymo i wneud gwelliannau parhaus blwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna pam y byddwn ni'n cyflawni ein gwaith dros y tair blynedd nesaf gan ddilyn y camau canlynol:

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae ffactorau'n codi o bryd i'w gilydd sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, a gallant ohirio neu newid cwmpas y gwaith, ond fe wnawn ein gorau glas i darfu cyn lleied â phosibl arnoch bob tro. Mae Camau 2 a 3 yn y cyfnodau cynllunio a dylunio ar hyn o bryd, a chânt eu cyflawni o fewn y ddwy i dair blynedd nesaf. Pan fyddwn ni'n barod i wneud y gwaith, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi.

Yn Eich Ardal

Gallwch ddarllen y newyddion am ein gwaith adeiladu o ddydd i ddydd yr adran Yn Eich Ardal ein gwefan. Cliciwch yma am fanylion.
Yn Eich Ardal

Cyllid i gynorthwyo'r gymuned

R'yn ni'n gwybod bod ein gwaith yn gallu bod yn drafferthus, ac rydyn ni am adael y gymuned mewn lle gwell ar ôl cwblhau ein gwaith. Os ydych chi'n codi arian ar gyfer prosiect er budd y gymuned, gallech gael gwerth £10,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru.

Os ydych chi'n sefydliad cymunedol sydd am gael cyfle i ennill cyfran o'r gronfa, bydd angen i chi glicio yma a chyflwyno cais i'r Gronfa Gymunedol. Yng ngham cyntaf y cais, bydd gofyn i chi ddewis y categori sy'n fwyaf addas i'ch cais. Dewiswch “Project giveaway” a nodwch y cyfeirnod “Usk Community Fund”.

I fod yn gymwys, rhaid i grwpiau fod yn ardal Brynbuga neu yn ardal cod post NP15.

Gorlifoedd Storm Cyfun

Mae CSOs yn chwarae rhan annatod wrth gadw ein cartrefi a'n cymunedau ni i gyd yn ddiogel rhag y perygl o lifogydd mewn cyfnodau o law trwm. Cliciwch yma am fanylion.

Ansawdd Dŵr Afonol

Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi rhoi amser ac adnoddau sylweddol i adolygu ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi, ymchwilio a chasglu tystiolaeth, cyfathrebu â chwsmeriaid, cysylltu â rhanddeiliaid a pharatoi adroddiadau ehangach ar ddata sy'n ymwneud â gweithrediad ein hasedau. Rydyn ni wedi herio ein dull o weithredu, ac mae gennym gynllun o ran sut y byddwn ni'n chwarae ein rhan wrth helpu i wella ansawdd dŵr afonol. Cliciwch yma am fanylion.

Cwestiynau Cyffredin