Ein buddsoddiad yn afon Wysg


Rydyn ni’n llwyr ddeall pwysigrwydd ansawdd dŵr afonol i’n cwsmeriaid, ac am ein bod ni’n cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri calon, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud gwelliannau parhaus yn y maes allweddol yma.

Yn y degawd hyd 2025, byddwn wedi buddsoddi tua £1.5 biliwn er mwyn gwella a chynnal ein rhwydwaith dŵr gwastraff, ac mae hyn wedi helpu i sicrhau bod gan 44.5% o’n hafonydd yng Nghymru statws ecolegol da, o gymharu ag 14% yn Lloegr.

Ar y dudalen hon mae rhywfaint o wybodaeth am y sialensiau sy’n ein hwynebu a’r prosiectau buddsoddi rydyn ni wrthi’n eu cyflawni ar hyn o bryd i wella ansawdd afon Wysg.

Beth yw’r broblem?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n monitro ansawdd ein prif afonydd. Mae yna bryder am ansawdd dŵr afonol mewn rhannau o afon Wysg am nad ydynt yn cyflawni’r hyn a elwir yn statws ecolegol ‘da’. Mae hynny’n golygu bod yna ormod o gemegolion fel ‘ffosfforws’ yn yr afon, sy’n gallu achosi gordyfiant o algâu sy’n gallu effeithio ar faint o ocsigen sydd ar gael yn y dŵr a niweidio bywyd gwyllt.

Beth sy’n achosi hyn?

TMae yna nifer o ffactorau sy’n gallu cynyddu lefel y ffosffadau. Mae hyn yn cynnwys sut rydyn ni’n trin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd i’r amgylchedd. Mae ein gwaith modelu ar afon Wysg, er enghraifft, yn dangos bod ein hasedau (h.y. ein gweithfeydd trin, a’n Gorlifoedd Storm Cyfunol neu CSOs) yn gyfrifol am rhwng 21% a 23% o’r ffosffadau yn y prif gyrff dŵr, a’r CSOs sydd i gyfrif am gwta 1% o hyn. Mae’r gweddill - dros 75% - yn cael ei achosi gan ffactorau eraill fel dŵr ffo o dir amaeth a baw anifeiliaid, draenio dŵr wyneb trefol, draeniau sydd wedi eu cam-gysylltu, a thanciau septig preifat.

Fodd bynnag, rydyn ni’n deall bod hyn yn fater pwysig i’n cwsmeriaid, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i wneud beth y gallwn ni i leihau ein heffaith ar afon Wysg.

Ein buddsoddiad

Dyma rhai o’r prosiectau rydyn ni’n eu cyflawni ar hyn o bryd a fydd yn helpu i leihau’r ffosffadau o’n rhwydwaith gwastraff yn afon Wysg.

Gorsaf Bwmpio Carthion a Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Brynbuga
Dyddiad Dechrau: Mehefin 2022
Dyddiad Cwblhau Disgwyliedig: Rhagfyr 2025
Buddsoddiad: £10 miliwn
Beth rydyn ni’n ei wneud: Dros y tair blynedd nesaf, byddwn ni’n uwchraddio ein hasedau yn ein Gorsaf Bwmpio Carthion a’n Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff ym Mrynbuga. Gallwch ddarllen rhagor am y buddsoddiad yma yn dwrcymru.com/Brynbuga

Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Aberhonddu
Dyddiad Dechrau: Tachwedd 2022
Dyddiad Cwblhau Disgwyliedig: Gorffennaf 2024
Buddsoddiad: £ miliwn
Beth rydyn ni’n ei wneud: Rydyn ni’n uwchraddio nifer o’r asedau yn y gweithfeydd trin dŵr gwastraff. Mae hyn yn cynnwys adeiladu tanc storm newydd sbon a fydd yn helpu i ddal unrhyw ddŵr sydd dros ben o’r system garthffosiaeth mewn cyfnodau o law trwm, ac yn ei atal rhag gorlwytho ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff.

Yn y pendraw, caiff y dŵr sy’n cael ei storio yn y tanc ei ryddhau nôl i’r system garthffosiaeth pan fo capasiti ar gael, lle caiff ei drin cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd. Byddwn ni’n cyflwyno proses a fydd yn tynnu’r ffosffadau o’r dŵr gwastraff wedi ei drin cyn iddo gael ei ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd hefyd. Pan fydd prosiectau buddsoddi pellach yn cychwyn, byddwn ni’n rhannu rhagor o fanylion ar y dudalen hon.