Port Talbot


Rydyn ni'n buddsoddi £10.3 miliwn yn rhwydwaith dŵr Port Talbot. Bydd hyn yn helpu i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.

Bydd y gwaith yn helpu i ddiogelu cyflenwadau ein cwsmeriaid ac yn lliniaru’r problemau y mae rhai o gwsmeriaid yr ardal yn eu dioddef ar hyn o bryd o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel.

Beth mae’r gwaith hwn yn ei gynnwys?

Mae rhai o’n pibellau sy’n cario dŵr i gwsmeriaid ar gyfer eu cawod a’u paned yn y bore dros 100 oed. Dros amser, gall dyddodion naturiol grynhoi y tu mewn i’r pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, mae angen i ni glirio’r pibellau bob hyn a hyn fel bod y dŵr yn rhedeg yn rhwydd.

Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid ac mae’n fwy na thebyg na fyddant hyd yn oed yn sylwi bod y gwaith yn cael ei wneud ond byddwn yn ysgrifennu at unrhyw gwsmeriaid y gallai’r gwaith effeithio arnynt gan roi'r holl wybodaeth y bydd arnynt ei angen.

Gan fod rhannau o’r rhwydwaith yn tynnu at ddiwedd eu hoes weithredol, bydd y buddsoddiad yn yr ardal yn sicrhau bod tuag 16.3km o brif bibellau dŵr naill ai’n cael eu newid a 9.8km yn cael ei clirio. Mae hyn bron yr un hyd â 248 o gaeau pêl droed.

Ymhle fydd y gwaith yma'n digwydd?

Bydd y gwaith, a ddechreuodd ym mis Mai 2021 yn cael ei gyflawni ar draws rhannau o Port Talbot, ac rydyn ni'n disgwyl ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.

Gallwch weld lle byddwn ni'n gweithio trwy glicio ar yr ardaloedd isod hefyd:

Dylid nodi bod ein mapiau'n dangos lleoliadau'r pibellau dŵr y byddwn ni'n eu huwchraddio gan ddefnyddio gwahanol dechnegau. Nid yw hynny'n golygu y byddwn ni'n cloddio yn eich stryd, ond os oes angen cyflawni unrhyw waith yn eich stryd, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.

Ardal safleoedd gwaith

Heol Brynna

Mae angen i ni osod ein safle gwaith dros dro a'n huned lles yn y cae a amgylchynir gan Heol Brynnau, Rhodfa Bryn-glas. Teras Cefndon a Heol-y-Foel. Bydd y safle gwaith yn cymryd rhan fechan o'r cae (tua 20x30 metr) yn y gornel isaf ar y chwith, y pen arall i'r cae i’r maes chwarae.

Byddwn ni'n dechrau gosod y safle gwaith dros dro o 28 Mehefin ymlaen ac rydyn ni'n disgwyl iddo fod yn ei le tan Dachwedd 2022. Prif ddefnydd yr ardal yma fydd storio deunyddiau a byddwn ni'n defnyddio Rhodfa Bryn-glas i gyrraedd y safle.

Heol Cwmavon

Mae safle gwaith dros dro a'n huned lles ar hyd Heol Cwmafan, Cwmafan, gyferbyn Ynys y Wern. Rydyn ni’n disgwyl fod ein safle gwaith yn ei lle tan i ni gwblhau ein gwaith yn Cwmafan ym mis Tachwedd 2022.

Fferm Cwmclais

Mae safle gwaith dros dro yn fferm Cwmclais. Rydyn ni’n disgwyl fod ein safle gwaith yn ei lle tan i ni gwblhau ein gwaith yn Cwmafan ym mis Tachwedd 2022

Bryn

Mae safle gwaith dros dro gyferbyn Heol Varteg o 3 Mehefin 2021 Rydyn ni’n disgwyl fod ein safle gwaith yn ei lle tan i ni gwblhau ein gwaith yn Cwmafan ym mis Mawrth 2022.

Eich dŵr

TNi ddylai'r rhan fwyaf o'r gwaith darfu ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith sydd o dan sylw, mae'n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os felly, byddwn ni'n anfon neges destun atoch ar y diwrnod i roi gwybod i chi.

Am glywed rhagor am hyn a sut mae mynd ati i gofrestru i gael newyddion? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin yma.

Cynllun rheoli traffig

Rydym yn treulio llawer o amser yn cynllunio’n gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar bobl. Rydym wedi cynllunio’r gwaith yn ofalus yma fel na fydd angen gwneud llawer ohono yn yr heol. Yn hytrach, byddwn yn gosod y pibellau newydd mewn tir sy’n ddigon pell o’r prif ardaloedd adeiledig hyd y bo modd.

Fodd bynnag, bydd angen i ni weithio yn yr heol weithiau ac efallai y bydd angen i ni ofyn i rai pobl beidio â pharcio yn y mannau lle byddwn yn gweithio. Os bydd hyn yn berthnasol i chi, byddwn yn siŵr o roi gwybod i chi mewn da bryd. Gallwn eich sicrhau y byddwn yn gwneud y gwaith yn yr heolydd mor gyflym ag y gallwn.

Sut rydym yn dod ymlaen?

Ein nod yw rhoi gwasanaeth ardderchog i chi a hoffem wybod a ydym yn llwyddo. Os hoffech rannu'ch ymateb i’r gwaith, ewch i www.dwrcymru.com/AdborthAmWaith

Yn eich ardal

Ardal

I glywed am gyfleoedd eraill i siarad â'r tîm, a gwybodaeth am unrhyw ffyrdd a fydd ar gau i draffig, ewch i yn eich ardal a chwilio dan eich cod post.

Darganfod mwy