Gair am ein gwaith


Er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gyflenwi dŵr yfed o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid bob tro yr agorant y tap, rydym yn buddsoddi dros £8 miliwn yn creu cronfa wasanaeth newydd ar y tir ger y gronfa wasanaeth bresennol.

Bydd yn rhoi mwy o le i ni storio dŵr a bydd ein cwsmeriaid ym Merthyr Tudful a’r cylch yn llai tebygol o gael toriadau yn eu cyflenwad.

Bydd y gwaith yn dechrau yn y gwanwyn ac, os aiff popeth yn iawn, caiff ei gwblhau yn ystod hydref 2022. Byddwn yn ysgrifennu at gwsmeriaid sy’n byw gerllaw yn nes at yr amser i ddweud beth y gallant ei ddisgwyl.

Mae Cronfa Wasanaeth bresennol Pengarnddu ym mhentref Pengarnddu, Merthyr Tudful. Mae ger Stad Ddiwydiannol Pengarnddu, oddi ar yr A465, ac mae’n cyflenwi dŵr yfed ffres i dros 10,000 o gwsmeriaid.

Caiff y gronfa wasanaeth newydd ei hadeiladu ar dir Dŵr Cymru, i’r gorllewin o’r gronfa wasanaeth bresennol. Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Adeiladu cronfa wasanaeth 61m x 50m yn y dirwedd, yn rhannol o dan y ddaear.
  • Gosod pibellau newydd i gysylltu’r gronfa newydd â’r rhwydwaith cyflenwi dŵr presennol.
  • Adeiladu cwt falfiau unllawr fel y gellir cyrraedd at y pibellau cyflenwi a’r falfiau i’w trin.
  • Creu llwybrau troed fel y gellir mynd at y gronfa newydd a’r siambrau o’i chwmpas i wneud gwaith arnynt.
  • Ymestyn heol fynediad y safle.
  • Symud rhan o derfyn y safle presennol a chodi ffensys newydd, diogel ar ei hyd.
  • Creu canolfan reoli newydd mewn ciosg, ger y gronfa bresennol.
  • Adfer y tir o gwmpas y gronfa newydd i fod fel y borfa ar y safle presennol.

Byddwn defnyddio darn o dir er ein hardal weithio fel compownd y safle dros dro. Ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, caiff y darn hwn o dir ei adfer a’i droi yn ôl fel yr oedd.

Tra byddwn yn gwneud y gwaith, bydd y llwybrau cyhoeddus gerllaw yn dal ar agor. Fodd bynnag, gallech sylwi bod rhwystrau’n cael eu codi o gwmpas rhai mannau. Er eich diogelwch chi y codir y rhwystrau hyn a gofynnwn yn garedig i chi beidio â mynd i fannau sydd wedi’u cau fel hyn.

Ni ddylai’r gwaith amharu ar eich cyflenwad dŵr na’ch gwasanaeth dŵr gwastraff.

Rheoli traffig

Byddwn yn cydweithio â Mott MacDonald Bentley a’u his-gontractwyr ac felly gallech weld eu cerbydau nhw yn yr ardal. Byddant yn mynd a dod i’r safle trwy Stad Ddiwydiannol Pengarnddu, gan rannu heol fynediad Asda gerllaw.

Oriau gweithio

Byddant yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7am a 6pm, ond gall fod angen iddynt weithio y tu allan i’r oriau hyn weithiau er mwyn gorffen y gwaith yn gyflym.