Cronfa Wasanaeth Pengarnddu, Merthyr Tudful


Gwyddom fod ein cwsmeriaid yn disgwyl cyflenwad dŵr dibynadwy iawn. Dyna pam rydym yn bwriadu gwneud gwelliannau i Gronfa Wasanaeth Pengarn-ddu gan sicrhau y byddwn yn dal i gyrraedd y safonau uchel a bennir gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI).

Roedd y prosiect buddsoddi yma’n cynnwys adeiladu cronfa wasanaeth newydd sbon ar dir wrth ymyl y gronfa wasanaeth gyfredol. Trwy wneud hyn, gallwn storio 9 megalitr o ddŵr yfed ychwanegol ar ôl ei drin - sy’n ddigon i lenwi tri phwll nofio maint Olympaidd a hanner! Bydd y storfeydd dŵr ychwanegol yma’n helpu i sicrhau bod pobl Merthyr Tudful â’r cylch yn llai tebygol o weld toriadau yn eu cyflenwadau.

Dechreuodd y gwaith yng ngwanwyn 2021, a chymerodd tua dwy flynedd i’w gwblhau. Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • Adeiladu cronfa wasanaeth 61m x 50m wedi ei gladdu’n rhannol o fewn y dirwedd
  • Gosod pibellwaith newydd i gysylltu’r gronfa newydd â’r rhwydwaith cyflenwi dŵr cyfredol.
  • Adeiladu tŷ falfiau un llawr fel y gall gweithredwyr gyrraedd at y pibellwaith cyflenwi a’r falfiau.
  • Creu llwybrau cerdded fel y gellir cyrraedd at y gronfa newydd a’r siambrau cyfagos.
  • Ymestyn trac mynediad y safle.
  • Codi ffensys newydd diogel o amgylch ffin gyfredol y safle.
  • Creu canolfan reoli newydd y tu fewn i giosg wrth ymyl y gronfa ddŵr gyfredol.
  • Adfer y tir o amgylch y gronfa newydd fel ei fod yn edrych fel yr oedd cyn dechrau’r gwaith.

Er mwyn sicrhau bod y gronfa newydd sbon yn asio i’r amgylchedd, bydd ein tîm yn cyflawni gwaith adfer trwy gydol y flwyddyn.