Gwelliannau yn Llyn Celyn


Yn Dŵr Cymru rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldeb dros gynnal a gweithredu ein hargaeau a’n cronfeydd dŵr yn ddiogel o ddifri.

Yn 2020, cyflawnwyd archwiliad 10 mlynedd gan Beiriannydd Panel annibynnol a gadarnhaodd fod cronfa ddŵr Llyn Celyn mewn cyflwr da, ond yn ôl y disgwyl, cyflwynodd ambell i argymhelliad i sicrhau bod y gronfa’n bodloni’r canllawiau diweddaraf sydd mewn grym yn y DU. Mae’r argymhellion yn yr adroddiad terfynol yn statudol, a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n eu gorfodi. Rhaid i ni ymateb iddynt o fewn amserlen ddiffiniedig.

Gallwn eich sicrhau chi nad yw hyn yn golygu bod yna bryderon uniongyrchol ynghylch diogelwch yr argae.

Un o’r argymhellion oedd cyflwyno mesurau i ddelio ag unrhyw orlif yn y gronfa heb ddibynnu ar ymyrraeth ddynol. Cyfres o falfiau a phibellwaith yn y tŵr ac o fewn strwythur yr argae sy’n rheoli lefel y dŵr yn y gronfa ar hyn o bryd, a staff ar y safle sy’n gweithredu’r rhain. Yn ogystal, mae un gorlifan gan y gronfa ddŵr eisoes, ac er y bydd y gorlifan yma’n aros, ac er ei fod mewn cyflwr gweithredol da, nid yw’r dŵr yn Llyn Celyn wedi cyrraedd lefel y gorlifan ers y 1970au.

Mae Dŵr Cymru wedi ystyried nifer o opsiynau i ddelio â gorlif pan fo lefelau’r dŵr yn uchel dros ben. Y bwriad yw codi gorlifan ychwanegol i ddelio â lefelau eithriadol o uchel o ddŵr pan fo lefel y gronfa dipyn yn uwch na lefel y gorlifan presennol. Mae yna debygolrwydd o 0.01% bod hyn yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn. Rydyn ni bellach wedi cyflwyno cais cynllunio llawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i adeiladu gorlifan ychwanegol yn Llyn Celyn, a hoffem rannu’r cynlluniau hyn â chi.

Bydd y gwaith arfaethedig yn sicrhau gwytnwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Beth ydym yn wneud?

Rydym yn adeiladu gorlifan ychwanegol newydd wrth ymyl y prif faes parcio oddi ar yr A4212 ar frig yr argae. Dros haf 2023 fe wnaethom gynnal gwaith paratoi ar y safle cyn y prif waith. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys adeiladu ffordd gludo newydd o waelod yr argae i'r brig yn ogystal â dargyfeirio ceblau foltedd uchel i ganiatáu i'r gwaith adeiladu gael ei wneud.

Wrth i ni wneud gwaith ar y prosiect tair blynedd mawr hwn mae’r maes parcio a’r llwybr ar draws yr argae ar gau i’r cyhoedd.

Bydd y prosiect yn gweld gorlifan arloesol newydd yn cael ei greu. Gyda’r gronfa ddŵr wedi’i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri gwnaed pob ymdrech i leihau effaith weledol y gorlifan newydd i’w helpu i ymdoddi’n well â’i hamgylchedd naturiol. Bydd y gorlifan newydd yn cael ei sianelu o dan gopa'r argae a bydd yn defnyddio graddiant naturiol y dyffryn i gyfeirio'r llif yn ôl i Afon Tryweryn islaw. Os bydd dyfroedd Llyn Celyn yn cyrraedd lefel eithriadol o uchel y gorlifan ategol, bydd dŵr yn llifo dros gored concrit Newydd y gorlifan arfaethedig i storfa i fyny’r llif, ond ni fydd yn mynd dim pellach yn y pwynt yna, am y caiff ei gadw yn y gronfa ddŵr gan ddefnyddio system o byrth hydrolig. Mewn digwyddiadau o lefelau eithriadol o uchel o ddŵr, pan fo lefel y gronfa dipyn yn uwch na lefel y gorlifan presennol (tebygolrwydd o 0.01% mewn unrhyw flwyddyn), byddai pyrth y gorlifan newydd yn agor.

Bydd y gorlifan ychwanegol hwn yn darparu amddiffyniad hanfodol rhag lefelau dŵr eithafol a allai ddigwydd yn y dyfodol.

Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan ein partneriaid, Mott MacDonald Bentley (MMB), ynghyd â nifer o isgontractwyr arbenigol. Byddwn yn gwneud y gwaith mewn pum rhan gyda'r pump yn rhedeg i'w gilydd yn ogystal â rhai yn cydredeg. Dechreuodd y gwaith yn haf 2023 a dylai gael ei orffen erbyn diwedd 2025.

Mae rhan gyntaf o'r gwaith ger y maes parcio yn cynnwys tynnu pridd a diogelu'r tir, gosod tanddraeniau yn ogystal ag adeiladu'r gwaelod, y waliau a'r to i greu'r gorlifan. Yn agos at ddiwedd y prosiect byddwn wedyn yn ailosod y pridd dros ran allfa'r arllwysfa fel bod yr effaith weledol yn cael ei lleihau cymaint â phosibl. Mae’r ail ran yn cynnwys creu y fewnfa newydd y gorlifan ategol, a fydd yn cynnwys tynnu pridd ac unrhyw greigiau lle bo angen. Yna byddwn yn adeiladu pad craen fel y gall ein craen weithio'n ddiogel i ni greu sylfaen a waliau’r orilfan.

Bydd rhan un a dau yn cynnwys adeiladu'r naill ochr a'r llall i'r arllwysfa newydd - y fewnfa a'r allfa. Yna bydd rhan tri, pedwar a phump yn ymuno â'r fewnfa a'r allfa.

Gyda llawer o draffig trwm yn mynd a dod o'r safle mae cyfyngiad cyflymder dros dro o 40mya ar rhan o'r A4212 ger yr argae a rheolaeth traffig pan fo angen.

Pan fydd y gwaith o adeiladu'r gorlifan ychwanegol newydd wedi'i gwblhau bydd cyfleusterau hamdden ychwanegol megis byrddau picnic a rhesel beiciau yn cael eu gosod wrth fynedfa'r argae a bydd byrddau gwybodaeth yn adrodd hanes Llyn Celyn hefyd yn cael eu gosod.

Disgwylir i’r gwaith ar y safle gael ei gwblhau ac y bydd y maes parcio’n ailagor ddiwedd 2025.

Cwestiynau Cyffredin

Yn Eich Ardal

I gael diweddariadau ar sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen, ewch i’n tudalen Yn Eich Ardal chi yma.

Darganfod mwy