Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf


Yn Dŵr Cymru, un o'n prif flaenoriaethau yw darparu cyflenwad dŵr yfed o'r radd flaenaf i gwsmeriaid yn syth i'w tapiau.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni fuddsoddi mewn gwaith trin dŵr newydd a chadarn a chyfleusterau cysylltiedig a fydd yn darparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân i'n cwsmeriaid am ddegawdau i ddod.

Mae'r cyflenwad dŵr yn cael ei fonitro a'i reoleiddio'n llym gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cyflenwi dŵr sy'n ddiogel i'w yfed ac sy'n bodloni'r safonau a nodir yn y Rheoliadau Ansawdd Dŵr. Cafodd Dŵr Cymru hysbysiad cyfreithiol yn 2019 gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu prosesau trin dŵr newydd a gwell yn yr ardal erbyn mis Mawrth 2030.

Heb fuddsoddiad sylweddol, ni fyddwn yn gallu parhau i fodloni'r safonau dŵr yfed uchel y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw a bydd cwsmeriaid mewn perygl o fwy o darfu ar y cyflenwadau yn y dyfodol.

Ein cynigion sy'n dod i'r amlwg

Rydym yn datblygu cynllun i adeiladu gwaith trin dŵr newydd, a chyfleusterau cysylltiedig, i gymryd lle ein gwaith presennol yn Llwyn Onn, Cantref a Phontsticill sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol. Mae'r cyfleusterau arfaethedig yn cynnwys:

  • Cyfleusterau gwaith trin dŵr newydd ger Merthyr Tudful, gan gynnwys gwell storfa ddŵr.
  • Piblinellau dŵr amrwd newydd i gario dŵr o gronfeydd dŵr presennol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i'r gwaith trin dŵr newydd.
  • Piblinellau newydd i gario dŵr wedi'i drin o'r gwaith trin dŵr newydd i'r rhwydwaith presennol ac ymlaen i gwsmeriaid.
  • Uwchraddio gorsafoedd pwmpio ac adeiladu rhai newydd i roi hwb i bwysedd dŵr a sicrhau y gall dŵr gyrraedd ein cwsmeriaid.

Bydd y cyfleusterau newydd nid yn unig yn darparu prosesau trin dŵr newydd a gwell ond byddant hefyd yn storio digon o ddŵr i ddarparu ar gyfer twf yn y boblogaeth yn y dyfodol a'i wneud yn fwy cadarn i effeithiau newid hinsawdd.

Bydd y prosiect yn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cyflenwad o'r radd flaenaf i gwsmeriaid bob tro y byddant yn troi eu tapiau ymlaen.

Yr hyn yr ydym wedi'i gynnig hyd yn hyn

Yn 2022 fe wnaethom ymgynghori ar gynigion cynnar gyda'r gymuned leol i adeiladu un gwaith trin dŵr newydd ger Pontsarn, i gymryd lle'r tri gwaith trin dŵr gerllaw. Gofynnom i bobl roi adborth i ni ar ein cynlluniau cychwynnol a hoffem ddiolch i'r rhai a achubodd ar y cyfle i wneud hynny. Roedd yr adborth a gafwyd yn ddefnyddiol iawn.

Ym mis Mawrth 2023, anfonwyd llythyr i ddiweddaru cwsmeriaid yn ardal Merthyr Tudful i egluro ein bod wedi penderfynu cymryd ychydig o amser ychwanegol i sicrhau ein bod yn rhoi ystyriaeth lawn i adborth y gymuned leol a chydbwyso hynny â'n hangen ni i adeiladu seilwaith dŵr newydd cyn i'n cynlluniau gael eu cwblhau. Gellir gweld copi o'r llythyr yma.

Beth sy'n digwydd nawr?

Un o'r themâu allweddol o'r adborth i'n hymgynghoriad oedd p’un a oedd opsiynau eraill ar gael, megis uwchraddio safleoedd presennol neu leoliad arall ar gyfer y Gwaith Trin Dŵr newydd. Roedd yr adborth arall yn cynnwys a allem leihau effaith weledol y gwaith trin dŵr arfaethedig a hefyd awydd i ddiogelu seilwaith gwyrdd Merthyr Tudful a pharc treftadaeth – Castell Cyfarthfa.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi bod yn parhau i adolygu ein cynnig gwreiddiol, gan ystyried yr adborth a dderbyniwyd, archwilio opsiynau posibl ychwanegol yn ogystal â chynnal arolygon pellach.

Rydym wedi ysgrifennu at gwsmeriaid yn ardal Merthyr Tudful gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gyda'r adolygiad ac i egluro rhai o'r opsiynau yr ydym yn eu hystyried ar hyn o bryd. Gellir dod o hyd i gopi o'r diweddariad yma.

Rydym yn dal i weithio'n galed i edrych ar yr holl opsiynau i ddarparu ateb fforddiadwy i ddarparu dŵr yfed glân a ffres i gwsmeriaid am ddegawdau i ddod a’n nod yw rhoi diweddariad pellach ym mis Mawrth 2024 pan fydd yr adolygiad presennol wedi'i gwblhau ac mae gennym rai opsiynau clir i'w cyflwyno.

Gallwn eich sicrhau y byddwn yn cynnal proses ymgynghori statudol lawn gyda'r gymuned leol cyn cyflwyno unrhyw gais cynllunio.

Amddiffyn yr Amgylchedd

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb dros ddiogelu'r amgylchedd o ddifrif, dyna pam rydym yn parhau i gynnal nifer o arolygon ac ymchwiliadau tir. Mae'r arolygon hyn yn cynnwys rhai ecolegol ac archeolegol fel ein bod yn deall yn llawn nodweddion yr ardaloedd a gynigir ar gyfer y gwaith, a cheisio lleihau'r effaith amgylcheddol lle bynnag y bo modd.

Rydym hefyd yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod ein cynlluniau'n ystyried ymddangosiad gweledol yr adeiladau a sut y maent yn eistedd o fewn y dirwedd.

Gwybodaeth bellach

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd llawer o gwestiynau am y prosiect hwn a pham mae angen i ni ei wneud.

Yn dilyn ein hymgynghoriad anstatudol ym mis Mawrth 2022, gwnaethom lunio dogfen Cwestiynau Cyffredin sy'n ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnwyd i ni. Gellir gweld copi o'r ddogfen hon yma.

Byddwn yn parhau i adolygu'r cwestiynau a dderbyniwn ac yn diweddaru ein hymatebion yn yr adran cwestiynau cyffredin isod. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ddefnyddiol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost atom cwmtafproject@dwrcymru.com

Lawrlwythiadau sydd ar gael