Cronfeydd Cilcain 1 a 2


Lleolir y ddwy gronfa ar gyrion pentref Cilcain yn nhroedfryniau dwyreiniol Bryniau Clwyd, Sir y Fflint. Ynghyd â Chilcain 3 a 4, cawsant eu hadeiladu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ddarparu cyflenwadau dŵr yfed ar gyfer yr ardal leol.

Nid ydynt yn rhan o'r rhwydwaith dŵr yfed mwyach am fod cwsmeriaid yn yr ardal yn cael eu cyflenwadau o gronfa ddŵr Alwen. Nid yw Clicain 1 a 2 yn agored i'r cyhoedd.

Beth rydyn ni'n ei wneud ar y safle

Am nad yw'r cronfeydd yn rhan o'n rhwydwaith dŵr mwyach, ni fyddai eu cynnal a buddsoddi ynddynt fel eu bod yn bodloni’r safonau diogelwch cyfredol ar gyfer cronfeydd pan nad oes eu hangen mwyach yn ddefnydd da o arian ein cwsmeriaid i ni fel cwmni nid-er-elw.

Rydyn ni'n bwriadu eu hadfer i'w cyflwr naturiol blaenorol ac ailnaturioli'r rhan yma o'r cwrs dŵr. Daw'r cronfeydd yn rhan o'r afon eto, gan ffurfio rhan o gwrs dŵr Nant Gain – bydd hyn yn eu dychwelyd i fel yr oeddent cyn codi'r argae ar ddechrau'r 1900au. Byddwn ni’n cadw Cilcain 3 a 4 fel cronfeydd o hyd.

Sut byddwn ni'n cyflawni'r gwaith

Caiff strwythurau'r argae yng Nghilcain 1 a 2 eu dymchwel, a chaiff sianel newydd ei hadeiladu er mwyn caniatáu i'r afon lifo ar hyd ei chwrs naturiol fel y byddai wedi gwneud cyn adeiladu'r argaeau.

Bydd geomorffolegydd yn gweithio gyda ni yn ystod y gwaith adeiladu er mwyn sicrhau bod sianel newydd yr afon yn cael ei hadeiladu mor agos â phosibl at ei chwrs gwreiddiol.

Yr Amgylchedd

Trwy ddyluniad gofalus, y gobaith yw y bydd y cynllun yn gwella bioamrywiaeth yr ardal gan ganiatáu i fywyd gwyllt lewyrchu. Ymgynghorwyd â Chyfoeth Naturiol Cymru ar bob cam o’r gwaith dylunio, ac maent yn gadarnhaol ynghylch y manteision ecolegol a ddaw o adael i’r bywyd gwyllt lewyrchu. Mae'r cronfeydd wedi eu lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ger Moel Famau, a bydd dychwelyd y safle i fyd natur yn gyson â'r dirwedd gyfagos.

Yr Amserlen

Rydyn ni'n disgwyl i'r gwaith ddechrau yng Ngwanwyn 2023.

Mae dychwelyd cronfeydd dŵr Cilcain 1 a 2 i'w cyflwr naturiol yn rhan o adolygiad ehangach o’n hargaeau yn ogystal â'r newidiadau a gyhoeddwyd eisoes yn Llyn Bran a Llyn Anafon, gyda'r ddau safle'n dychwelyd i'w statws fel llynnoedd naturiol.

Ar ôl cyflawni'r gwaith

Rydyn ni'n disgwyl i'r ardal ddychwelyd i fyd natur â’r dŵr yn ystumio trwy'r ardal lle mae'r cronfeydd ar hyn o bryd fel y mae delwedd yr artist yn ei ddangos.

Bwriedir cwblhau'r gwaith erbyn Hydref 2023.

Rydym wedi gorffen ein gwaith ar y safle

Am fwy o wybodaeth, lluniau a ffilm o’r gwaith ewch i’r dudalen yma.

Cilcain

Yn Eich Ardal

Newyddion lleol

Am y diweddaraf am y prosiect a beth sy’n digwydd ar y safle, ewch i dudalen Yn Eich Ardal .

Gwybod mwy