Rhan Isaf Tref Aberteifi


Ein bwriad yw buddsoddi £3.7 miliwn mewn gwaith i uwchraddio'r system dŵr gwastraff yn rhan isaf tref Aberteifi er mwyn helpu i leihau'r perygl o lifogydd carthion yn yr ardal. Yma fe gewch chi wybodaeth am y gwaith a sut y gallai effeithio arnoch chi.

Rydyn ni’n bwriadu dechrau’r gwaith ynmis Hydref, a dylem fod wedi gorffen o fewn 9 mis.Dylid nodi bod y dyddiad dechrau yma’n amodolar ganiatâd allanol, ond byddwn ni’n rhoi gwybodi chi os oes angen newid dyddiadau’r gwaith.

Rydyn ni'n cyflawni'r gwaith yma am taw carthffosydd cyfun yw'r carthffosydd sy'n cludo dŵr gwastraff o gartrefi a busnesau yn Aberteifi, sy'n golygu eu bod nhw'n cludo'r dŵr sy'n dod oddi ar doeau a gwteri hefyd. Mae hynny'n golygu bod glaw trwm yn gallu gorlethu'r system gan beri i ddŵr brwnt orlifo trwy'r tyllau archwilio ac achosi llifogydd.

Er mwyn atal hyn rhag digwydd, rydyn ni am wneud mwy o le yn y rhwydwaith trwy osod tua 250 metr o bibellau dŵr gwastraff newydd ac adeiladu gorsaf bwmpio newydd. Caiff yr orsaf bwmpio newydd ei hadeiladu yn y maes parcio bach o flaen Gwesty'r Angel, byddwn ni’n symud ymlaen wedyn i Stryd Morgan, ar hyd Carrier's Lane ac i'r Strand, lle bydd ein gorlif rhyddhau. Mae angen gwneud hyn am nad yw'r pwynt rhyddhau cyfredol yn gallu draenio pan fo'r dŵr yn yr afon yn uchel.

Bydd y gwaith yma'n helpu i atal llifogydd o'r carthffosydd, ond ni fydd yn helpu i atal llifogydd dŵr wyneb na llifogydd llanwol, am nad yw llifogydd dŵr wyneb yn y ffordd a llifogydd llanwol yn dod o fewn cwmpas cyfrifoldebau Dŵr Cymru.

Ein contractwyr partner, Morgan Sindall, fydd yn cyflawni'r gwaith yma. Byddwn ni'n gweithio rhwng 7.30am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener, ond mae'n bosibl y bydd yna adegau pan fydd angen gweithio'n hwyrach neu ar benwythnosau er mwyn cwblhau'r gwaith.

Rheoli traffig

Byddwn ni'n gweithio mewn nifer o strydoedd yn Aberteifi, gan gynnwys Y Strand, Carrier’s Lane, Stryd y Santes Fair, Stryd Morgan, ac wrth gyffordd Pwllhai a Stryd Morgan.

Er diogelwch, bydd angen i ni gau rhan fechan o Stryd y Santes Fair yn ystod ein gwaith, a hynny o gyffordd Stryd Morgan i bwynt jyst heibio i westy'r Angel. Bydd angen diddymu'r system un ffordd ar hyd Stryd y Santes Fair o westy'r Angel hyd at gyffordd Pwllhai dros dro er mwyn caniatáu ar gyfer traffig dwy ffordd. Bydd modd parcio ar Stryd y Santes Fair o hyd. Bydd modd mynd a dod i'r cartrefi a'r busnesau ar Stryd y Santes Fair, ond mae'n bosibl y bydd yna gyfyngiadau ar barcio'n union y tu allan i eiddo. Pan fydd y gwaith yn dechrau bydd tîm y safle'n hapus i drafod parcio â chi i weld pa drefniadau y gellir eu gwneud.

Oherwydd lleoliad ein gorsaf bwmpio newydd, bydd angen dileu nifer o'r mannau parcio sy'n union o flaen Gwesty’r Angel yn barhaol, ac ni fydd y maes parcio bach y tu allan i Seyran’s Pizza ar gael am gyfnod yn ystod ein gwaith am y bydd angen defnyddio'r ardal hon ar gyfer y gwaith adeiladu.

Am gael rhagor o fanylion?

Ymunwch yn ein rhith-achlysur rhannu gwybodaeth â'r cyhoedd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Ceredigion, a fydd yn rhedeg rhwng 13 Medi 2021 ac 26 Medi 2021.

Cewch siarad â ni trwy sgwrs fyw yn ystod ein sesiynau holi ac ateb pan fydd tîm y prosiect wrth law i ateb eich holl gwestiynau.

Gallwch siarad â ni:

  • Dydd Mercher, 15 Medi 2021 - 16:00 – 19:00
  • Dydd Mawrth, 21 Medi 2021 - 13:00 – 15:00

Amser ddim yn gyfleus? Dim problem, galwch draw i'r achlysur ar-lein unrhyw bryd yn ystod y pythefnos yma. Cewch gyfle i glywed rhagor am y prosiect, wedyn gallwch anfon neges atom gyda'ch cwestiynau.

Dyma'r linc i'r achlysur: cardigan-investment.virtual-engage.com

Cwestiynau Cyffredin