Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy


Nod hirdymor ar gyfer Cymru gyfan yw Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, neu SMNR, mae hyn yn cynnwys byd diwydiant, llywodraeth leol a chymunedau.

Fel cwmni dŵr, bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw yn effeithio ar ein cwsmeriaid a'n hamgylchedd ni i gyd am genedlaethau i ddod.

Y Sialens

Mae Cymru'n wynebu sialensiau lu, fel diogelu ynni, creu swyddi, taclo tlodi ac anghydraddoldeb, addasu i'r newid yn yr hinsawdd, a gwella iechyd a llesiant pobl. Er mwyn cyflawni'r sialensiau, mae angen syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio. Mae hyn yn cynnwys ein dealltwriaeth am sut rydyn ni'n cynnal, yn gwella ac yn defnyddio ein hadnoddau naturiol. Er mwyn i Ddŵr Cymru ddod yn fusnes mwy gwydn, ac er mwyn parhau i gyflawni ein gwaith yn gynaliadwy, mae angen i ni weithio gyda byd natur a gweithio mewn partneriaeth ag eraill er mwyn sicrhau manteision tymor hir i bawb, gan gynnwys yr amgylchedd. Pan fo'n hamgylchedd yn gweithio ar ei orau, mae'r gymdeithas yn ffynnu hefyd.

Y Cyfle

Mae Deddf Amgylchedd Cymru, yn cyflwyno sawl mesur i wella ac amddiffyn yr amgylchedd yng Nghymru. Mae'n cyflwyno newidiadau i’r dulliau o weithredu er mwyn cynnal a gwella materion amgylcheddol trwy hyrwyddo dull systemaidd o weithio, ac integreiddio’i gofynion â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd gan ddefnyddio dulliau Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

4 Nod SMNR

I greu fframwaith gweithredu SMNR, mae CNC wedi cyflwyno 4 Nod. Y pedair nod yw:

  • Diogelu Adnoddau Naturiol
  • Ecosystemau Gwydn
  • Amgylchedd Iach ar gyfer Pobl
  • Economi Adfywiol

Mae llawer o'n cynlluniau a'n strategaethau cyfredol eisoes yn cyflawni yn erbyn y nodau uchod. Mae’r manylion am sut rydyn ni'n chwarae ein rhan wrth greu Cymru iach a gwydn sy'n gweithredu'n dda isod.

Esiamplau o ddiogelu adnoddau naturiol

  • Dysgu sut rydyn ni'n cysylltu â chenedlaethau'r dyfodol a'r adnoddau y gallwch eu defnyddio i addysgu'r bobl o'ch cwmpas am werth dŵr.

 

 

 

  • Gweld sut rydyn ni'n gweithio ar raddfa dalgylch i amddiffyn tir, afonydd a chronfeydd dŵr am flynyddoedd i ddod yma.

 

 

 

 

 

 

  • Dysgu rhagor am Orlifoedd Storm Cyfun (CSOs) a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth gadw cartrefi a chymunedau'n ddiogel rhag y perygl o lifogydd mewn cyfnodau o law trwm (sy'n digwydd yn amlach oherwydd y newid yn yr hinsawdd).

 

 

 

Ecosystemau Gwydn

  • Darllen am sut rydyn ni'n cynnal byd natur a bioamrywiaeth yn ein Cynllun Bioamrywiaeth.

 

 

 

 

Amgylchedd Iach i Bobl

  • Dysgu sut rydyn ni'n gweithio gyda chymunedau i deilwra buddsoddiadau at anghenion lleol yma

 

 

 

 

  • Gweld sut rydyn ni'n lleihau ein hôl troed carbon a'n costau ynni yma

 

 

 

 

Economi Adfywiol

Astudiaethau Peilot

Am fod SMNR yn ffordd newydd o weithio, rydyn ni'n datblygu 4 Nod SMNR mewn 4 dalgylch peilot. Mae gan bob dalgylch nodweddion unigryw sy'n caniatáu i ni a'n rhanddeiliaid brofi nifer o agweddau ar SMNR a dulliau o weithredu.