Deall ffynonellau ffosfforws yn ein hafonydd


Gall gormod o ffosfforws yn ein hafonydd achosi gordyfiant o algâu, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar faint o ocsigen sydd ar gael yn y dŵr ac yn gallu achosi niwed i fywyd gwyllt.

O ganlyniad, mae ei bresenoldeb yn ein hafonydd bellach yn denu sylw mawr, â mwy a mwy o bobl a sefydliadau sy’n poeni am ein hafonydd yn dymuno gwybod o ble mae’n dod, a beth yw’r atebion.

Dyna pam fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) yn cydweithio ar waith ymchwil a fydd yn darparu tystiolaeth o’r gwahanol ffactorau sy’n cyfrannu at lefelau’r ffosfforws yn ein hafonydd. Mae’r adroddiadau’n canolbwyntio ar ein hafonydd sydd wedi eu dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Byddwn ni’n defnyddio’r dull modelu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer buddsoddiadau mewn dŵr gwastraff yn y dyfodol er mwyn helpu i sicrhau bod yr afonydd sy’n ACA yn cyflawni eu targedau o ran ansawdd dŵr. Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Asesiad Cydymffurfiaeth ACA Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws.

Yn 2021, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru asesiad ar sail y targedau tynnach o ran ffosfforws a bennwyd ar sail argymhellion y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur yn 2016 er mwyn amddiffyn afonydd a ddynodir yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Roedd yr asesiad yn dangos bod nifer o afonydd oedd yn arfer cydymffurfio yn methu â chyflawni’r targedau llymach o ran ffosfforws.

Er mwyn deall cyfraniad DCWW at y baich ffosfforws sydd yn yr afonydd, ac asesu unrhyw welliannau y gallai fod angen i ni ei wneud o ran yr hyn sy’n cael eu rhyddhau o’n gweithfeydd trin dŵr gwastraff, rydyn ni wedi diweddaru ac ail-asesu ein modelau o ran ansawdd dŵr gan ddefnyddio SAGIS (System Gwybodaeth Ddaearyddol am Ddosbarthiad Ffynonellau), sef yr offeryn safonol y mae’r rheoleiddiwr a’r diwydiant yn ei ddefnyddio. Ymarfer ar y cyd a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’n rheoleiddiwr amgylcheddol oedd hwn.

Mae Dŵr Cymru’n falch o gyhoeddi dogfennau allweddol mewn perthynas â’n gwaith modelu ar ein gwefan, a chyfleu’r bwriad Dŵr Cymru i fuddsoddi er mwyn cynorthwyo’r ymdrechion cydweithredol i adfer yr afonydd i statws ffafriol o ran cadwraeth wrth gynorthwyo’r datblygiad economaidd sydd ei angen ar Gymru i fod yn gymuned lewyrchus.

Mae’r adroddiadau yn nwylo’r cyfieithwyr ar hyn o bryd, a chaiff y fersiynau Cymraeg eu cyhoeddi pan fyddant ar gael. 

Llythyr Eglurhaol

Llythyr Eglurhaol y Rhaglen Chwefror23

Lawrlwytho
44.3kB, PDF

Adroddiadau SAGIS ACA

Adroddiad SAGIS ACA – Cleddau

Lawrlwytho
298.9kB, PDF

Adroddiad SAGIS ACA – Dee

Lawrlwytho
488.1kB, PDF

Adroddiad SAGIS ACA – Teifi

Lawrlwytho
431.5kB, PDF

Adroddiad SAGIS ACA – Usk

Lawrlwytho
379.5kB, PDF

Adroddiad SAGIS ACA – Wye

Lawrlwytho
595.6kB, PDF

Adroddiad SAGIS ACA – Afon Tywi

Lawrlwytho
2.9MB, PDF

Adroddiad SAGIS ACA – Afon Gwyrfai

Lawrlwytho
1.6MB, PDF

Adroddiad SAGIS ACA – Meironydd Oakwoods

Lawrlwytho
3.2MB, PDF

Adroddiad SAGIS ACA - Afon Eden

Lawrlwytho
2.6MB, PDF

Mapiau Trosolwg Llwyth Ffosfforws ACA

Map Trosolwg Llwyth Ffosfforws ACA – Cleddau

Lawrlwytho
3.1MB, PDF

Afon Gwynfai Afon Eden and Meirionydd Oakwoods Phosphorus Load Overview

Lawrlwytho
4MB, PDF

Map Trosolwg Llwyth Ffosfforws ACA – Dee

Lawrlwytho
7.9MB, PDF

Map Trosolwg Llwyth Ffosfforws ACA – Teifi

Lawrlwytho
5.3MB, PDF

Afon Tywi Phosphorus Load Overview

Lawrlwytho
6MB, PDF

Map Trosolwg Llwyth Ffosfforws ACA – Usk

Lawrlwytho
7.6MB, PDF

Map Trosolwg Llwyth Ffosfforws ACA – Wye

Lawrlwytho
10.3MB, PDF

Rhestr Rhaglen Ffosfforws

Rhestr Rhaglen Ffosfforws

Lawrlwytho
51.3kB, XLSX

Gwybodaeth Cydweithio

Cydweithio ar Cynlluniau Lleihau Ffosfforws

Lawrlwytho
203.2kB, PDF

Pendics Lleihau Ffosfforws Rhyngweithiol

Lawrlwytho
247kB, PDF

Data SAGIS

Sector source apportionment data for all SAC river basins in DCWWs operational area

Lawrlwytho
48.3kB, XLSX