Ansawdd Dŵr ein Hafonydd


Mae afonydd yn hanfodol i’n hiechyd, ein heconomi a’n lles yn ogystal ag ecoleg a bioamrywiaeth Cymru a Lloegr. Mae dyfroedd yn hanfodol i’n gweithrediadau oherwydd fel cwmni dŵr rydyn ni’n tynnu’r dŵr i greu dŵr yfed ac yna’n dychwelyd dŵr gwastraff wedi’i lanhau i’n hafonydd.

Mae ansawdd dŵr afonydd yn hynod bwysig i’n cwsmeriaid, ac rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif. Rydyn ni wedi ymrwymo i wella ansawdd dŵr afonydd. Rhwng 2015 a 2025, byddwn ni wedi buddsoddi tua £1.5 biliwn yn gwella a chynnal ein rhwydwaith dŵr gwastraff. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod ein bod ni weithiau yn gwneud y peth anghywir, a phan fydd hyn yn digwydd, rydyn ni’n gwneud ein gorau i wneud pethau’n iawn. Rydyn ni bob amser yn ceisio dysgu unrhyw wersi a fydd yn ein helpu i osgoi digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol ac rydyn ni’n ddiolchgar i’n cwsmeriaid a’n cymunedau am eu cymorth.

Yng Nghymru, ar hyn o bryd mae 44.5% o’n hafonydd â statws ecolegol da, ond byddwn yn parhau i wneud gwelliannau i sicrhau bod gan fwy o afonydd statws da. Gall lefelau maethynnau, llygredd cemegol fel metelau, amonia, silt, bacteria sy’n llwglyd am ocsigen, rhwystrau i bysgod yn symud, sbwriel a llawer o bethau eraill effeithio ar ansawdd dŵr ein hafonydd.

Mae gennym drwyddedau ar waith yn ein gweithfeydd trin dŵr gwastraff er mwyn amddiffyn yr afon. Mae’r trwyddedau hyn yn cael eu gosod gan ein rheoleiddwyr amgylcheddol a gallant gael eu newid pan fo angen, i adlewyrchu anghenion cyfnewidiol yr afon, neu petai tystiolaeth newydd yn dod i law. Pan fydd hyn yn digwydd, rydyn ni’n gweithio gyda’n rheoleiddwyr i wella ac uwchraddio ein gweithfeydd trin dŵr.

Mae nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at lefelau ansawdd dŵr afonydd nad ydyn nhw o dan reolaeth y diwydiant dŵr. Gall y rhain gynnwys dŵr ffo o’r arwyneb, camgysylltiadau, defnydd tir gwledig megis amaethyddiaeth a thanciau septig preifat. Mae modd gweld enghraifft o sut y gall y gwahanol ffynonellau hyn effeithio ar ansawdd dŵr afonydd yn ein modelu ffosfforws.

Gallwch weld y modelau hyn ar gyfer afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru yma.

Caiff ein dull ni o fuddsoddi arian cwsmeriaid ei arwain gan dystiolaeth, fel ein bod ni’n gwella ein hasedau mewn ffordd sydd wedi’i blaenoriaethu ac sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r rhai hynny sy’n achosi niwed i’r amgylchedd.

Rydyn ni wedi gweithio ar y cyd gyda’n rheoleiddwyr amgylcheddol ar ein cynlluniau ar gyfer y presennol a’r dyfodol, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Rydyn ni eisoes yn gwneud llawer o waith ac yn buddsoddi’n sylweddol i leihau’r effaith ar afonydd yr ydym ni’n gyfrifol amdani. Mae hyn yn cynnwys:

  • Rydyn ni’n aelod allweddol o’r Tasglu Gwella Ansawdd Dŵr Afonydd sy’n dod â rheoleiddwyr, llywodraeth a chwmnïau dŵr at ei gilydd i wella ansawdd dŵr afonydd. Am fanylion ynghylch y cynlluniau gweithredu diweddaraf, cliciwch yma.
  • Rydyn ni wedi cynnal modelu ffynonellau llygredd maethynnau am ddim ar gyfer pob sector, ar Afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru a Swydd Henffordd. Bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2023.
  • Rydyn ni’n cefnogi Byrddau Rheoli Maethynnau ar draws ein hardaloedd gweithredu

Os oes gennych ymholiadau penodol am fater yn ymwneud ag ansawdd afon a hoffech siarad â rhywun gallwch e-bostio riverqualityliaison@dwrcymru.com

Gwella ansawdd dŵr ein hafonydd

PDF, 4.7MB

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi rhoi amser ac adnoddau sylweddol i adolygu ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi, ymchwiliadau a chasglu tystiolaeth, cyfathrebu â chwsmeriaid, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflwyno adroddiadau ehangach ar ddata sy’n ymwneud â gweithrediad ein hasedau. Rydym wedi herio ein hunain ac mae gennym gynllun ar sut y byddwn yn chwarae ein rhan i helpu i wella ansawdd dŵr afonydd. Gallwch weld y cynllun yma.

Generic Document Thumbnail

Gwella ansawdd dŵr afonydd Cymru

PDF, 380.4kB

Yn dilyn Uwchgynhadledd Ffosffad y Prif Weinidog yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddydd Llun 18 Gorffennaf, mae Dŵr Cymru wedi amlinellu cynigion i fuddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol cyn diwedd 2025 i leihau gollyngiadau Ffosffad o'i weithfeydd trin dŵr gwastraff ac i leihau effaith Gorlifoedd Storm Cyfun. Mae hyn yn ychwanegol at yr £836m a gyllidebwyd ar ei gyfer eisoes yn ei Gynllun Busnes ar gyfer 2020-2025. Rydym yn croesawu unrhyw ymatebion a chynigion pellach. Dylid anfon ymatebion at welshwater2050@dwrcymru.com erbyn 16 Medi.