Ynni Adnewyddadwy


Dŵr Cymru yw un o brif ddefnyddwyr ynni Cymru, ac mae hynny am ei fod yn gweithredu ac yn cynnal rhwydwaith 27,500km o brif bibellau dŵr, mwy na 30,000km o garthffosydd, 838 o weithfeydd trin carthffosiaeth a 66 cronfa gronni. Mae gennym fil ynni blynyddol o £44 miliwn, ac felly rydyn ni wedi bod yn chwilio am ffyrdd o gynhyrchu ynni ar ein safleoedd fel y gallwn leihau ein hôl troed carbon a chostau mewnforio ynni.

Rydyn ni wedi cynyddu faint o ynni rydym yn ei gynhyrchu ar ein safleoedd mewn blynyddoedd diweddar, gyda chynnydd o gwta 6GWh yn 2007-08 i bron i 100GWh yn 2015/16, ac mae hyn yn dal i gynyddu ar rai o’n safleoedd.

Erbyn hyn, rydyn ni'n cynhyrchu 20% o'n hanghenion ynni ei hunain trwy ynni'r gwynt, hydro, solar a threulio anaerobig uwch - a'r nod yw cynyddu hynny i 30% erbyn 2019.

Ym mis Gorffennaf 2017, fe gyhoeddon ni gontract ynni newydd gyda DONG Energy a fydd yn gwarantu bod yr ynni y mae Dŵr Cymru'n ei ddefnyddio o'r grid yn ynni gwyrdd.

Mae hyn oll yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth leihau ein hôl troed carbon, ac mae'n fuddiol i'n cwsmeriaid hefyd am y bydd yn lleihau ein costau gweithredu cyffredinol fel y gallwn gadw biliau'n isel.

Gallwch gael gwybod mwy am ein prosiectau ynni adnewyddadwy a newyddion isod: