Disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithdy ar ansawdd dŵr


Mae grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 11 Ysgol Bro Teifi yn Llandysul wedi cymryd rhan mewn gweithdy ar ansawdd dŵr, diolch i Dîm Dalgylch Dŵr Cymru.

Rheolwr y prosiect, Nigel Elgar, oedd yn arwain y gweithdy ac esboniodd wrth y myfyrwyr pam y dylen nhw ofalu am eu cyflenwadau dŵr.

Dywedodd: "Roedd yn amlwg o’r sylwadau y gwnaeth y myfyrwyr eu bod eisoes wedi dysgu mewn gwersi ysgol am bwysigrwydd dŵr yfed glân ar gyfer iechyd pobl. Roedd gan lawer o’r myfyrwyr gysylltiadau â ffermio ac roedden nhw’n gallu uniaethu â rhai o’r heriau y mae Dŵr Cymru yn eu hwynebu ac yn gwerthfawrogi sut mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i ddiogelu cyflenwadau yn y dyfodol."

Cafodd y gweithdy ei gynnal fel rhan o ddigwyddiad ar gyfer myfyrwyr amaethyddol presennol a phosibl yng ngholeg Amaethyddol Gelli Aur, yng nghyffiniau Llandeilo. Mae digwyddiadau fel y rhain yn hanfodol i’r Tîm Dalgylch feithrin cysylltiadau agosach gyda sefydliadau partner i helpu i ddiogelu ansawdd dŵr crai, yn ogystal â rhoi gwybod i gwsmeriaid y dyfodol am yr hyn sydd ei angen i ddarparu dŵr yfed iach i dair miliwn o gwsmeriaid bob dydd.

Youngsters take part in workshop on water quality

Dysgu sut y gall arferion ffermio effeithio ar ansawdd dŵr