Dŵr Cymru yn cefnogi amaethyddiaeth leol


Mae Dŵr Cymru’n chwilio am grwpiau o ffermwyr fyddai â diddordeb gweithio gyda ni i helpu i ddiogelu cyflenwadau dŵr yfed.

Ychydig iawn o’r tir lle rydym ni’n casglu dŵr yfed sydd yn ein perchnogaeth. Felly er mwyn sicrhau bod y dŵr mor lân ag y gall fod cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr, rydyn ni’n awyddus i weithio gyda grwpiau o ffermwyr yn ein dalgylchoedd i ddod o hyd i syniadau newydd neu ffyrdd arloesol o reoli tiroedd a fydd yn amddiffyn ein ffynonellau nawr ac am flynyddoedd i ddod.

“Er gwaethaf pob gofal ac ymdrech, gall rhai gweithgareddau ac arferion gael effaith niweidiol ar ansawdd dŵr,” meddai’r Cydlynydd Partneriaethau Dalgylch, Alwyn Roberts. “Rydyn ni am weithio gyda grwpiau yn ein dalgylchoedd i ddod o hyd i gyfleoedd i wella ansawdd dŵr er mwyn effeithlonrwydd ffermio, yn ogystal â bioamrywiaeth a’r amgylchedd ehangach.”

“Rydyn ni’n cynnig grwpiau wedi eu hwyluso a’u hariannu, yn Gymraeg a Saesneg, i sbarduno syniadau newydd a allai amrywio o dynnu siaradwyr arbenigol i mewn i drefnu ymweliadau cyfnewid, ac o rannu rhai o’r risgiau sy’n gysylltiedig â threialu dulliau newydd i ddatblygu syniadau i’w hymgorffori fel mater o fusnes fel arfer i aelodau’r grŵp.” Os oes diddordeb gennych chi sefydlu neu ymuno â grŵp a’ch bod am gael rhagor o fanylion, e-bostiwch watersource@dwrcymru.com

Map yn dangos dalgylchoedd Dŵr Cymru.