Dŵr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â CFfI Cymru i gynnal sioe wybodaeth deithiol i ffermwyr ifanc


Yn rhan o’n partneriaeth arloesol barhaus â Chlybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru, rydyn ni wedi cymryd rhan yn y cyntaf mewn cyfres o sioeau gwybodaeth ar draws Cymru.

Roedd hi’n hyfryd gweld tua 50 o ffermwyr ifanc a’u teuluoedd ym Marchnad Da Byw Sir Fynwy i glywed am TarddLe, sut mae rheoli dalgylchoedd yn gweithio, a pha elfennau allanol sy’n gallu effeithio ar ein gwaith.

TarddLe yw’r enw ar ein dull o reoli dalgylchoedd trwy ofalu am y tir, afonydd a chronfeydd dŵr er mwyn amddiffyn ein dŵr yfed am flynyddoedd i ddod. Yn rhan o’r dull yma o weithredu, rydyn ni’n gweithio gyda ffermwyr, perchnogion tir ac amrywiaeth eang o bobl sydd â buddiant er mwyn sicrhau bod y dŵr rydyn ni’n ei drin mor lân ag y gall fod cyn ein cyrraedd ni. Bydd hynny’n golygu y gallwn ddefnyddio llai o gemegolion a llai o ynni wrth ei drin.

Yn sgil y digwyddiad, dywedodd Cydlynydd Partneriaethau Dalgylch Dŵr Cymru, Dan Humphreys, a roddodd yr anerchiad: “Gwrandawodd y gynulleidfa yn astud ar ein cyflwyniad wrth i ni amlinellu beth yn unig yw rheoli dalgylchoedd. A chafwyd cwestiynau a thrafodaethau difyr wedyn, gyda llawer o ddiddordeb yn ein mapiau llif hydrolegol a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud ac yn ei hwyluso gyda grwpiau ffermwyr.”

Dywedodd Lee Pritchard, Swyddog Materion Gwledig CFfI Cymru: “Roedd hi’n braf gweld niferoedd mor dda yng nghyflwyniadau’r sioe ar y cyd rhwng Dŵr Cymru a CFfI Cymru ym Marchnad Da Byw Sir Fynwy, oedd yn gyfle rhagorol i lansio cynllun Hyrwyddwyr TarddLe, lle cafwyd sgwrs ddiddorol dros ben am bwysigrwydd siwrnai ein dŵr o’r tarddle i’r tap.”

Bydd ein sioe nesaf yn Sir Fôn dydd Mercher, 26 Ebrill.

I glywed rhagor am ein gwaith ar y cyd â CFfI Cymru, ewch i’n gwefan neu e-bostiwch watersource@dwrcymru.com.