Dŵr Cymru a ffermwyr lleol yn cydweithio i ddeall risgiau cryptosporidiwm mewn da byw a dŵr afonol


Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi bod yn helpu ffermwyr ym Mhowys i ddeall effaith heintiadau cryptosporidiwm yn eu hanifeiliaid.

Mae’r astudiaeth wedi clustnodi’r ffyrdd gorau o fynd ati i amddiffyn a thrin anifeiliaid wrth ddiogelu ffynonellau dŵr yfed yr un pryd.

Mae’r gwaith ymchwil wedi helpu i glustnodi llwybrau symudiad cryptosporidiwm ar draws ffermydd a thrwy’r da byw. Trwy samplo helaeth, dangosodd yr astudiaeth fod cryptosporidiwm yn bresennol ar ffermydd, yn yr anifeiliaid ac yn y dŵr afonol.

Dywedodd Nigel Elgar, Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru: “Mae’r astudiaeth benodol yma wedi bod yn fuddiol i ni ac i’r ffermwyr hefyd. Nawr mae Dŵr Cymru’n deall presenoldeb cryptosporidiwm mewn da byw ac yn yr amgylchedd yn well, a bydd hyn yn ein helpu ni i glustnodi sut y gallwn weithio ar y cyd â ffermwyr i daclo’r broblem. Trwy gydweithio gallwn ddod o hyd i ffyrdd o weithredu a fydd yn lleihau’r risgiau i ffermwyr, eu hanifeiliaid a ffynonellau dŵr yfed fel ei gilydd.”

Ariannwyd y gwaith yma trwy Bartneriaeth Arloesi Ewropeaidd Cymru, ac mae rhagor o fanylion yn yr erthyglau canlynol:

Cyswllt Ffermio:
Ffermio: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/partneriaeth-arloesi-ewrop-yng-nghymru-eip-wales/prosiectau-eip-wediu-cymeradwyo/oes-na

West Wales Chronicle:
https://www.westwaleschronicle.co.uk/blog/2022/09/29/welsh-farmers-better-informed-to-tackle-cryptosporidium-thanks-to-eip-wales-study

 

Samplu dŵr fel rhan o brosiect EIP crypto