Cynhadledd TarddLe19: Wynebu'r Dyfodol gyda'n Gilydd


Cynhaliwyd TarddLe19: Wynebu'r Dyfodol gyda'n Gilydd ddydd Mawrth, 1 Hydref yn ICC Cymru, Casnewydd.

Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Hydref 2019

Lleoliad: Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd, NP18 1HQ

Thema: Rheoli Dalgylchoedd: Wynebu'r Dyfodol gyda'n Gilydd

Cynhaliwyd TarddLe19: Wynebu'r Dyfodol gyda'n Gilydd ddydd Mawrth, 1 Hydref yn ICC Cymru, Casnewydd.

Nod yr achlysur oedd denu pobl o amryw o sectorau ynghyd i ystyried sut y gallwn weithio ar y materion rheoli dalgylchoedd sy'n effeithio arnom ni i gyd. Trwy rannu'r sialensiau sy'n ein hwynebu o ran ansawdd dŵr crai, gall ein partneriaid a'n cymunedau ddeall ein gwaith yn well, a'n helpu ni i glustnodi cyfleoedd i gydweithio at y dyfodol.

Fe rannon ni wybodaeth am sut mae ein gwaith ymchwil a'n cynlluniau rheoli dalgylchoedd arbrofol yn gosod sylfeini cadarn i gyflawni ein huchelgeisiau at y dyfodol.

Yn ystod y dydd, buom ni'n archwilio sut y gallwn gydweithio i gyflawni'r deilliannau gorau posibl o ran llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru gynaliadwy.

 

Cysylltwch â ni

Rydyn ni’n awyddus i glywed am eich syniadau ynglŷn â sut y gallwn wiethio gyda’n gilydd i fynd ati i gyflawni rheolaeth dalgylchoedd sy’n cael effaith arnon ni i gyd.

Os cewch chi mwy o syniadau ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol, cysylltwch â ni.

Y Cyflwyniadau

 

Mae cyflwyniadau'r diwrnod ar gael yma:

 

Yr Agenda

 TarddLe 19 Agenda

Cofrestrwch i glywed y newyddion diweddaraf am TarddLe.

Cofrestrwch i glywed y newyddion diweddaraf am TarddLe yma.