Cynhaliwyd TarddLe22


Hwyluso Cydweithio Effeithiol dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022 yn y Vale Resort, Hensol.

Nod yr achlysur oedd ailsefydlu’r cysylltiadau a wnaed cyn y pandemig COVID, a chael ymrwymiad gan y partneriaid allweddol i gydweithio fel ‘Tîm Cymru’ er mwyn amddiffyn ein ffynonellau dŵr yfed.

Mae’r ffynonellau hyn yn wynebu sialensiau digynsail o du pwysau ar ddefnydd tir a’r newid yn yr hinsawdd, ac mae’n glir na allwn gyflawni ein huchelgais 2050 i ddiogelu dŵr yfed trwy reoli dalgylchoedd ar ein pennau ein hunain.

Trwy gydweithio i gyflawni manteision niferus sy’n mynd y tu hwnt i ansawdd dŵr yfed, gallwn fynd i’r afael ag Argyfyngau Byd Natur a’r Hinsawdd hefyd. Gallwn gyflawni cymaint yn fwy trwy gydweithio fel “Tîm Cymru”.

Yr achlysur oedd y cyfle cyntaf i fwrw ymlaen ag argymhellion Gweithgor Craidd yr Archwiliad Dwfn o Fioamrywiaeth, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, a gyhoeddwyd ar 3 Hydref 2022

Gyda’n gilydd, byddwn ni’n llunio map o’r ffordd orau i weithredu ar y lefel briodol mewn ffordd effeithiol ac amserol.

Mae’r deunyddiau canlynol o’r diwrnod ar gael yma

Agenda’r Gynhadledd

Lawrlwytho
76.1kB, PDF

Y Prif Anerchiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS

Lawrlwytho
79.3kB, PDF

TarddLe22 yn hwyluso’r Archwiliad Dwfn o Fioamrywiaeth

Lawrlwytho
32.6kB, DOCX

Adroddiad TarddLe22

Lawrlwytho
206.1kB, PDF