Dŵr Cymru a CFfI Cymru’n cynnig cyfle cydweithio i ffermwyr ifanc


Dros y tair blynedd diwethaf, mae CFfI wedi elwa ar bartneriaeth gyda Dŵr Cymru, ac mae cyfle wedi codi nawr i ddau o’i aelodau gydweithio’n agos â’r cwmni trwy ddod yn Hyrwyddwyr TarddLe ar gyfer 2023-2024.

Ydych chi am ddysgu rhagor am ddŵr yfed, amaethyddiaeth a rheoli dalgylchoedd? Os felly, gallai’r cyfle arloesol yma i weithio gyda Dŵr Cymru fod yr union beth i chi!

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus y cyfle i:

  • Gael gwell dealltwriaeth am pam fod Dŵr Cymru eisiau gweithio gyda’r sector amaeth, a beth y gallwch ei wneud i amddiffyn cyflenwadau dŵr yfed at y dyfodol.
  • Ymweld â gweithfeydd trin dŵr glân a dŵr gwastraff er mwyn deall y gwaith sy’n mynd i gael dŵr i’r tap, a dysgu beth sy’n digwydd ar ôl i chi fflysio’r tŷ bach.
  • Mynychu digwyddiadau dalgylch penodol, cyfleoedd rhwydweithio, cynhadledd flynyddol, sioeau amaeth.
  • Gweithio gyda ni ar brosiectau fel:
  • - Datblygu dealltwriaeth gynyddol am iechyd anifeiliaid a’r effaith bosibl ar gyflenwadau dŵr yfed.

    - Defnyddio a deall y defnydd o dechnoleg newydd fel LiDAR, gorsafoedd tywydd, systemau mapio hydrolegol, synwyryddion newid yr hinsawdd a modelu tir.

  • Treulio diwrnod allan yn ein dalgylchoedd yn samplo dŵr gyda’r tîm
  • Cael siaced â brand ddwbl i’w gwisgo mewn digwyddiadau
  • Derbyn tystysgrif cyflawniad ar ddiwedd y cynllun.

Dyma gyfle gwych i ni weithio mewn partneriaeth a dod o hyd i’r prosiectau hynny a fydd yn fuddiol i’r naill sefydliad a’r llall. Bydd yn caniatáu i ni rannu gwybodaeth â ffermwyr ifanc, a chodi ymwybyddiaeth am y gwaith sy’n mynd i ofalu am ein ffynonellau dŵr yfed cyn iddynt gyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr.

Bydd yn rhoi cyfle hefyd i ffermwyr ifanc ddysgu am y diwydiant dŵr, sut mae rheoli dalgylchoedd yn gweithio, a sut y gall helpu ffermwyr i ddod yn fwy effeithlon a gwydn mewn byd lle mae’r hinsawdd yn newid.

Dywedodd y Rheolwr Dalgylchoedd, Tara Froggatt: "Daw cydweithio i amddiffyn ein cyflenwadau dŵr, meddwl mewn ffordd arloesol a thorri tir newydd, a chyd-greu atebion, â buddion i’r byd amaeth a’r diwydiant dŵr. Bydd gweithio mewn partneriaeth â Chlwb y Ffermwyr Ifanc yn helpu i ddwyn perswâd ar bobl ac yn llywio ein siwrnai i fod yn wasanaeth dŵr o safon ryngwladol, sy’n wydn ac yn gynaliadwy er budd cenedlaethau’r dyfodol."

I ymgeisio neu i ofyn am ragor o fanylion, e-bostiwch watersource@dwrcymru.com.